Symud i Gymru
- Cyhoeddwyd

Mae mewnfudo wedi bod yn bwnc llosg yma yng Nghymru ers degawdau, ond beth yw profiadau teuluoedd o Loegr sy'n symud yma i fyw? Dyna mae'r cynhyrchydd teledu Euros Lewis wedi bod yn ei ddarganfod ar gyfer cyfres newydd ar S4C. Bu'n trafod 'Croeso i Gymru' gyda Cymru Fyw:
Heriau'r cymdogaethau Cymraeg
Yr arfer ym myd y teledu bellach yw i ail gyfres ymddangos yn gymharol sydyn wrth gwt y gyfres gynta'.
'Slawer dydd, mi fydden nhw'n ymddangos fesul blwyddyn. Erbyn hyn, mae'r Americaniaid wedi'n dysgu i feddwl yn nhermau 'tymhorau'.
Rhan o'r cyffro o berthyn i ddiwylliant lleiafrifol yw bod modd benthyg (neu ddwyn, yn Dwm-Sion-Catïaidd, hyd yn oed) oddi wrth y diwylliant mawr cyfoethog sy'n ein cwmpasu ar brydiau er mwyn ychwanegu posibiliadau hybrid newydd i'n hecoleg feddyliol y'n hunain.
Ond y gwir gyffro yw bod yn rhydd i beidio dilyn Y Norm. I weithredu'n unol â'n hanian. I anghydffurfio.
Pan fyddwch yn eistedd i wylio rhaglen gyntaf 'Croeso i Gymru' - gwylio dechrau'r ail gyfres fyddwch chi (Tymor 2 i'w roi yn iaith Netflix).
Os colloch chi'r gyfres gynta', mae'n bosib y'ch bod dal yn eich cewyn pan ddarlledwyd hi. Oherwydd, nid mis neu ddau na blwyddyn neu ddwy o fwlch sydd. Darlledwyd y 'Croeso' gynta' lawn 10 mlynedd 'nôl!
Ym 1985, ganwyd cwmni ffilm/teledu Wes Glei - ffrwyth cyd-drafodaeth iaith a diwylliant Theatr Felin-fach a Recordiau Fflach.
Yn ganolog i'r drafodaeth honno oedd y bwlch rhwng ymateb Bobol-y-Grym-Canolog i heriau'r Gymraeg yn ei chymdogaethau hanesyddol a'r angen a'r potensial oedd yn cael ei adnabod gan y bobl llawr gwlad eu hunain.
Yn 2003/4, cafodd Wes Glei ganiatâd S4C i dreulio blwyddyn gyfan i edrych ar realiti byw a bywyd y Gymraeg o bersbectif (am unwaith) nid Pobol-y-Canol ond y cymdogaethau eu hunain.
Yma i aros
Gafaelodd y criw cynhyrchu yn y cyfle arbennig hwn trwy ddod o hyd i dri theulu yn ne-ddwyrain Lloegr oedd ar fin symud i Gymru - i gefn gwlad y Gymraeg.
Gan fod yr arian a ddyfarnwyd ar gyfer y gyfres gymaint yn fwy 10 mlynedd yn ôl, mwynhaodd y criw'r fraint o ffilm gyda phob un o'r teuluoedd drwy'r flwyddyn yn ddi-dor.
Effaith hynny oedd i ni allu dangos yn y gyfres gynta' (Tachwedd/Rhagfyr 2004) sut yr oedd rhamantu'r tri theulu wrth baratoi i symud yn chwalu braidd wrth fwrw realiti byw yng nghefn gwlad y gorllewin Gymraeg.
Eto, ar waethaf eu siomedigaethau a'u rhwystredigaethau, ddiwedd eu blwyddyn gyntaf yng Nghymru roedd teuluoedd Cribyn (Ceredigion), Penygroes (Sir Gâr) a Phont Senni (Brycheiniog) yn gwbl gytûn. Ro' nhw yma i aros.
Eleni, 10 mlynedd yn ddiweddarach, wrth ddweud wrth ffrindiau y'n bod yn mynd nôl at deuluoedd 2004 y cwestiwn bob amser oedd, 'A ble ma' nhw te? Wedi mynd?'
Ma'r cwestiwn hwnnw, wrth gwrs, gyda'r cyntaf i'w ateb yn y gyfres newydd. Ond, gan ein bod ni y tro hwn hefyd yn edrych ar deuluoedd sydd newydd symud i Benmachno a'r Gaerwen yn y gogledd ma' 'na gymaint fwy o gwestiynau i'w gofyn.
Pwy ydi'r 'mewnfudwyr'?
Ac mi fydd y bwlch yna o 10 mlynedd yn help mawr i ddyfnhau ein dealltwriaeth o pam ma' bobol o Loegr wedi - ac yn dal i - symud i Gymru.
Ond nid cwestiynu'r mewnfudwyr yn unig fydd Cyfres 2. Yn wir, wrth i'r broses o ddatblygu'r rhaglenni hyn ddwysáu, daeth hi'n amlwg fod y cwestiynau i ni ein hunain, breswylwyr y cymdogaethau Cymraeg, yr un mor bwysig.
Os nad, yn wir, yn bwysicach. Mae'n siŵr mai am i ni fynd i'r afael â'r cwestiynau hyn y penderfynodd S4C beidio dangos y gyfres hon adeg yr etholiad cyffredinol.
Yn ystod y 10 mlynedd rhwng y ddwy gyfres mae'r gair 'mewnfudo' wedi ehangu ei ystyr. Ar ddechrau cyfres 2004, doedd dim angen i ni esbonio at bwy ro' ni'n cyfeirio wrth ddefnyddio'r gair 'mewnfudwyr'.
Bellach, diolch i wleidyddiaeth Lloegr mae'r Cymro wrth wrando ar newyddion Cymraeg y BBC bob amser yn gorfod mynd drwy'r broses sydyn honno o benderfynu pa 'fewnfudwyr' y mae'r bwletin yn cyfeirio atynt.
Ai Saeson yn symud i Gymru neu dramorwyr yn symud i Loegr?
Ni a nhw?
Nid prin yw'r lleisiau swyddogol sydd wedi cyhoeddi mai 'mewnfudwyr' (h.y. Saeson yn symud i gymdogaethau'r Gymraeg) yw'r broblem fwya' sy'n wynebu dyfodol yr iaith. Mae'r gair 'problem' yn ddiddorol.
Dyma'n union y gair a ddefnyddir gan Nigel Farage a'i ddilynwyr i ddisgrifio pobol o dramor yn symud i Loegr. Perygl mawr y gair 'problem' yw'r ddau air sy'n cwato yn ei gysgod. 'Nhw' yw'r naill. 'Bai' yw'r llall.
Mi fydd llawer o'r atebion i gwestiynau'r gyfres yn cadarnhau llawer o'ch rhagdybiaethau, mae'n siŵr. Mi fydd eraill yn eich gwneud i chi, fel minnau, gwestiynu ymhellach.
Dwi ddim, felly, am sarnu eich mwynhad o'r rhaglenni wrth rannu'r cyfan gyda chi 'mlaenllaw. Ond un peth dwi yn mentro ei ddatgelu. Yn wir, yn awyddus ei rannu.
Trwy gydol 'Croeso i Gymru' (fel yn wir, yn y gyfres gyntaf) chlywch chi neb o blith y cymdogaethau eu hunain - o ddyfnder ecoleg cymhleth-gyfoethog ein ffordd-o-fyw - yn defnyddio na 'nhw' na 'bai' o fewn yr un anadl.