Galeri Caernarfon yn dathlu'r deg
- Cyhoeddwyd

Mae canolfan gelfyddydau Galeri Caernarfon wedi dathlu ei phen-blwydd yn 10 oed yn ddiweddar, ac mae'r dathliadau wedi parhau ar faes yr Eisteddfod yr wythnos hon.
Mae'r ganolfan wedi dod â charafán gelf i'r maes, a phlant y maes carafanau wedi bod yn creu gwaith celf yno gyda chydlynydd celf Galeri, Menna Tomos.
Fel rhan o'r dathliadau ddydd Iau, bu gweithwyr y ganolfan yn teithio o'u carafán gelf i Gaffi'r Theatrau gydag artistiaid o gwmni sgiliau syrcas,
Yn dilyn anerchiad gan Brif Weithredwr Galeri, Gwyn Roberts, roedd cyfle i fwynhau cacenni pen-blwydd i ddathlu'r garreg filltir.
'Edrych ymlaen'
Bu cyfarwyddwr Artistig Galeri, Mari Emlyn, yn sgwrsio gyda Cymru Fyw am y dathliadau:
"Mae'n garreg filltir bwysig iawn ac, wrth gwrs, 'dy'n ni wedi bod yn edrych yn ôl, ond mae'n bwysig hefyd edrych ymlaen at y deg mlynedd nesa' a gweld sut allan ni ddatblygu ar y gwaith da sydd wedi bod yn barod. Mi fydda' ni'n sicr yn ôl yma mewn 10 mlynedd arall.
"Y bobl sy'n dod i'r Galeri sy'n ei wneud yn llwyddiant. Pobl Caernarfon a'r cylch sy'n creu bwrlwm Galeri, a be' dy'n ni'n trio'i wneud ydi rhaglennu gwaith sy'n berthnasol ar eu cyfer nhw tra'n herio disgwyliadau'r un pryd.
"Fis Medi, mae gennym ni gyfres o'r enw Tic-Tacs hefo personoliaethau o'r byd chwaraeon, wedi'i gadeirio gan Nic Parry, ac mae hynny wedi bod yn ymgais i geisio datblygu cynulleidfa wahanol.
"Yn hytrach na phobl sydd dim ond yn mynd i weld theatr, dawns neu gerddoriaeth, 'da ni'n agor y drws i bobl fyddai efallai ddim yn cysidro dod i mewn."
Ehangu'r ganolfan
Daeth cyhoeddiad yn y dathliadau hefyd bod cynlluniau i ehangu Galeri, gyda'r sefydliad wedi "tyfu allan o'r adeilad".
"Does 'na ddim digon o le i ni gynnal y math o waith mae pobl yn galw amdano," meddai Ms Emlyn.
"Felly o fewn y ddwy flynedd nesaf mi fydd 'na ddwy sgrîn sinema newydd, fydd yn rhyddhau'r theatr wedyn i gael mwy o gynyrchiadau theatr, neu i'w gwneud yn fwy hwylus i gwmnïau theatr ddod yma, yn hytrach na bod ni yn eu stwffio nhw i mewn am noson.
"Er mai'r gynulleidfa sy'n bwysig i ni, 'da ni eisiau gofalu am yr artistiaid - eu bod nhw'n cael yr amodau gorau i weithio."
'Cystadleuaeth yn beth iach'
Gyda chanolfan gelfyddydau Pontio i agor erbyn 2016, mae Ms Emlyn yn dweud ei bod yn gymysgedd o gystadleuaeth a hwb i Galeri.
"Dwi ddim yn ei weld yn broblem. Mae cystadleuaeth yn beth iach," meddai.
"'Da ni'n cydweithio'n barod, fel trafod rhaglenni i drio osgoi'r un math o ddigwyddiadau ar yr un pryd.
"Mae'n golygu mwy o gyfleoedd i artistiaid, mwy o gyfleoedd i gwmnïau theatr yr ardal, ac mae'n golygu y bydd rhaid i ni yn Galeri fod ar flaenau'n traed i gadw i fyny hefo'r datblygiadau newydd.
"Felly os ydi'r ewyllys yna, fe fydd 'na gydweithio hapus rhwng Pontio a Galeri."