Chwilio am ddyn wedi ymosodiad

  • Cyhoeddwyd

Dywed Heddlu Dyfed-Powys eu bod yn chwilio am ddyn yn dilyn adroddiadau o ymosodiad arfog yn Sir Benfro.

Cafodd yr heddlu eu galw i fflat yn Noc Penfro am 13:20 ddydd Iau.

Aed â dyn i'r ysbyty gydag anaf i'w ben.

Mae'r heddlu wedi arestio un dyn ar amheuaeth o ymosod ac maen nhw'n chwilio am ddyn arall.

Dywed yr heddlu y dylai unrhyw un ag unrhyw wybodaeth gysylltu â nhw ar 101.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol