BBC Cymru Fyw

Heddlu'n chwilio am 'ddyn arfog'

Published
image captionCafodd plismyn eu galw i fflat yn Pater Court, Doc Penfro, am 13:20.
Mae'r heddlu'n chwilio am ddyn oherwydd adroddiadau bod ymosodiad arfog yn Sir Benfro.
Cafodd plismyn eu galw i fflat yn Pater Court, Doc Penfro, am 13:20.
Aed â dyn i'r ysbyty oherwydd anafiadau i'w ben.
Cafodd rhywun arall ei arestio ar amheuaeth o ymosod a dylai unrhywun â gwybodaeth ffonio 101.