Tân mawr ar safle sgipiau yng Nghas-gwent
- Cyhoeddwyd

Mae diffoddwyr yn ceisio delio â thân mawr ar safle cwmni llogi sgipiau yn Sir Fynwy.
Cafodd diffoddwyr eu galw i RB Skip Hire yn Heol yr Orsaf, Cas-gwent, am 16:30.
Cyrhaeddodd wyth o griwiau'r safle, ble mae stordy mawr, ac mae uned delio â digwyddiad cemegol yno rhag ofn.
Chafodd neb ei anafu.