Llafur Cymru angen 'hunaniaeth bendant'
- Cyhoeddwyd

Mae'n rhaid i'r blaid Lafur gael mwy o ryddid i ddatblygu hunaniaeth bendant yng Nghymru o dan ei arweinydd nesaf, yn ôl prif weinidog Cymru Carwyn Jones.
Dywedodd fod "brand hyderus, gwreiddiol o blaid Lafur Cymru" yn un rheswm pam fod Llafur yng Nghymru wedi osgoi'r un ffawd a'r blaid yn yr Alban, sydd wedi colli tir i'r SNP.
Fe ddywedodd hefyd fod cecru rhwng gwahanol garfannau yn ystod yr ymgyrch etholiadol am arweinyddiaeth y blaid yn "rhodd" i wrthwynebwyr y blaid Lafur.
Nid yw'r prif weinidog wedi lleisio ei farn yn gyhoeddus am pa ymgeisydd y mae'n ei ffafrio, ond fe ddywedodd y byddai'r ymgeisydd asgell chwith Jeremy Corbyn yn "ddewis anarferol" fel arweinydd nesaf Llafur.
"Mwy o ryddid"
Wrth ysgrifennu ar wefan y New Statesman, dywedodd Mr Jones: "Yn y misoedd a'r blynyddoedd sydd i ddod fe fyddwn am gael mwy o ryddid i ddatblygu'n math ein hunain o hunaniaeth i Lafur Cymru, ac rwyf yn edrych ymlaen at glywed mwy gan yr ymgeiswyr am sut y bydde nhw'n ein cefnogi yn hyn."
Dywedodd fod angen i Lafur gael y "strwythurau cywir i ddatblygu'r blaid mewn Prydain sydd yn fwy-fwy ffederal".
Fe apeliodd hefyd ar y blaid i ddod at ei gilydd gan ddweud fod disgrifio'r rhai oedd yn gefnogol i syniadaeth Blairaidd fel "firws" yn "gwbl annerbyniol ac nid oes lle i hyn o gwbl mewn trafodaeth wleidyddol wareiddiedig".
Cafodd y term ei ddefnyddio gan Dave Ward, pennaeth Undeb y Gweithwyr Cyfathrebu, sydd yn cefnogi Mr Corbyn yn yr ymgyrch.
Bydd Mr Corbyn yn ymgyrchu yng Nghymru'r wythnos nesaf.
Ei wrthwynebwyr yw Yvette Cooper, Andy Burnham a Liz Kendall.
Bydd ennw'r arweinydd newydd yn cael ei gyhoeddi ar Medi 12.