Pallial: Cyn heddwas i wynebu achos yn 2016
- Cyhoeddwyd

Mae disgwyl y bydd cyn uwch-arolygydd gyda Heddlu Gogledd Cymru yn wynebu achos llys mewn cysylltiad â honiadau o droseddau rhyw hanesyddol ym mis Medi'r flwyddyn nesaf.
Cafodd Gordon Anglesea, 78 oed, ei arestio fel rhan o ymgyrch Pallial, sydd yn ymchwilio i honiadau o droseddau rhyw hanesyddol mewn cartrefi plant yng ngogledd Cymru .
Mae Mr Anglesea yn wynebu saith cyhuddiad sy'n dyddio'n ôl i gyfnod rhwng 1979 a 1987. Mae wedi ei gyhuddo o dri achos o ymosod yn anweddus ac un achos o ymosodiad anweddus difrifol yn ardal Wrecsam rhwng mis Mai 1984 a Mai 1985.
Mae'n wynebu honiadau hefyd o ymosodiad anweddus ac ymosodiad anweddus difrifol yn erbyn plentyn o dan 16 oed yn ardal Bae Colwyn rhwng Gorffennaf 1979 ag Awst 1980.
Mae hefyd yn wynebu honiad o ymosod yn anweddus ar fachgen o dan 16 oed yn yr Wyddgrug rhwng Ionawr 1986 a Ionawr 1987.
Fe siaradodd Gordon Anglesea unwaith yn ystod y gwrandawiad yn yr Wyddgrug i gadarnhau ei enw.
Dywedodd Mr Anglesea mewn gwrandawiad blaenorol y byddai'n gwadu'r holl honiadau yn ei erbyn.
Cafodd yr achos ei ohirio gan y Barnwr Rhys Rowlands tan y gwrandawiad nesaf ar 20 Tachwedd.
Cafodd Mr Anglesea ei ryddhau ar fechniaeth amodol.