BBC Cymru Fyw

Ymosodiad Doc Penfro: Arestio dyn arall

Published
image captionCafodd plismyn eu galw i fflat yn Noc Penfro ddydd Iau
Mae Heddlu Dyfed Powys yn dweud bod dyn arall wedi cael ei arestio mewn cysylltiad ag ymosodiad difrifol yn Noc Penfro.
Cafodd ei arestio gan heddlu arfog yn y dre' y bore 'ma.
Eisoes roedd un person yn cael ei holi ar ôl cael ei arestio mewn cyrch gan heddlu arfog ddydd Iau.
Cafodd yr heddlu eu galw i dŷ yn Noc Penfro am 13.22pm ddydd Iau, ar ôl i ddyn gael niwed mewn ymosodiad honedig oedd yn ymwneud ag arf.
Mae un person yn yr ysbyty gydag anafiadau i'w pen.