Carcharu dau am geisio llofruddio

  • Cyhoeddwyd
Llys

Mae dau ddyn o Lerpwl oedd wedi ceisio bod yn werthwyr heroin dylanwadol yn Abertawe wedi eu carcharu am oes am geisio llofruddio dyn yn y ddinas.

Fe wnaeth Jason John McLoughlin, 44 oed, a Louis Gantley, 30 oed, drywanu Darren Charles o leiaf 10 o weithiau yn ei fflat ym Mharc Sgeti gan feddwl eu bod wedi ei ladd.

Clywodd Llys y Goron Abertawe bod y ddau wedi ei wawdio wrth adael y fflat gan feddwl ei fod yn marw.

Dywedodd y Barnwr Paul Thomas nad oedd ganddo unrhyw amheuaeth fod y ddau wedi ceisio "anfon neges" i ddangos eu bod yn gymeriadau mawr yn y farchnad gwerthu heroin yn Abertawe.

Fe oroesodd Mr Charles, 47 oed, yr ymosodiad ar ôl bod yn yr ysbyty am fis.

Cafwyd McLoughlin a Gantley yn euog o geisio lladd, a bydd y ddau dan glo am 10 mlynedd a phedwar mis cyn cael yr hawl i apelio am barôl.

Dywedodd y barnwr bod y ddau wedi paratoi'n ofalus ar gyfer yr ymosodiad, gan ddefnyddio cyllyll a morthwyl.

Eu bwriad, meddai, oedd anfon neges i eraill i beidio ag ymyrryd yn eu masnachu.