Eisteddfod: Temtasiwn i aros adre?
- Cyhoeddwyd
Mae'r arlwy sy'n cael ei gynnig gan y cyfryngau yn golygu bod yna "demtasiwn i aros adref" yn hytrach na dod i faes yr Eisteddfod, meddai Llywydd yr Ŵyl, R Alun Evans.
Dywedodd nad oes cymaint o ymwelwyr o wahanol ardaloedd o Gymru yn dod i'r maes, oherwydd yr holl raglenni teledu a radio sydd ar gael erbyn hyn.
Ond, ychwanegodd fod y newidiadau i'r Eisteddfod eleni yn "ardderchog".
Bu'n annerch y pafiliwn ddydd Sadwrn yn araith y llywydd.
Mwy wrth aros adre'?
Wrth siarad gyda BBC Cymru Fyw, dywedodd: "Mae yna gymaint ar radio a theledu, bob math o wylio a gwrando bellach yn bod, wrth gwrs bod hi yn demtasiwn i aros adre.
"'Dwi wedi cwrdd ag eisteddfodwyr pybyr yn dweud, 'Wel 'da ni ddim yn dod i Feifod, gewn ni fwy ohoni wrth aros adre'. Mae hynny yn wir mae'n debyg…
"Ond mae bod yma yn y diwedd… mae hynny hefyd yn bwysig."
Yn ôl y Llywydd, does yna ddim bysiau o wahanol ardaloedd o Gymru yn heidio i'r maes fel y bydden nhw flynyddoedd yn ôl, a hynny achos bod mwy o ddarlledu ar y teledu a'r radio.
Newidiadau 'ardderchog'
Ond er hynny, mae'n dweud: "Allwn ni ddim ei chael hi bob ffordd."
Mae'n credu bod y newidiadau i'r Brifwyl wedi bod yn rhai "ardderchog".
"Mae wedi dod yn fwy o ŵyl. Mae wedi dod yn fwy bywiog yn y ffordd mae pob math o weithgareddau i bob oed ac am wn i i bob diddordeb ar y maes."
Tra'n cyfaddef bod meddwl am sut y bydd y Brifwyl yn cael ei hariannu i'r dyfodol "o hyd yn bryder", mae'n dweud bod yr Eisteddfod nid yn unig yn ddibynnol ar grantiau ond hefyd gwirfoddolwyr a "rhywbeth mor anwadal â thywydd yn y pendraw. Mi all miloedd a channoedd o filoedd ddod yn ddibynnol ar y tywydd...Mae hwnna yn bryder."
Mi fyddai'n hoffi gweld pafiliwn arall ar gyfer cystadlaethau unigol, ond mae'n dweud y byddai angen dipyn o waith trefnu er mwyn i hynny weithio.
A oes heddwch?
Bu R Alun Evans yn trafod heddychiaeth yn ystod ei araith.
Mae'n teimlo y gall Cymru gynnig arweiniad yn y maes ac mae'n dweud ei fod yn "gosod her i'r gynulleidfa" i ystyried yr hyn maen nhw'n gweiddi yn ystod seremonïau'r Orsedd.
Mae eisiau i'r Academi Heddwch sydd newydd gael ei sefydlu ddatblygu a hynny gyda help y cyhoedd.
"'Dwi'n meddwl bod eisiau i ni ddatgan ein barn yn fwy clir. Pan 'da chi yn meddwl am yr Eisteddfod fel symudiad, nid yn unig yr Eisteddfod Genedlaethol, 'yn ni'n cael y seremonïau a'r gweiddi heddwch, Eisteddfod yr Urdd a'r neges ewyllys da, Eisteddfod Llangollen a'i phwyslais ar harmoni rhwng gwledydd.
"Tybed a all y mudiad Eisteddfod a'r gwyliau mawr Eisteddfod fod yn cynnig cefnogaeth i'r academi?"