Urddo aelodau newydd yr Orsedd ym Meifod

  • Cyhoeddwyd
Cyrn Steddfod
Disgrifiad o’r llun,
Yr haul yn tywynnu ar y cyrn wrth i'r seremoni ddechrau ar y maes

O dan haul tanbaid Maldwyn ddydd Gwener, fe gafodd 32 aelod newydd eu hurddo i Orsedd yr Eisteddfod Genedlaethol.

Diwrnod balch i deuluoedd y rhai oedd yn cael eu hurddo, a digon o dynnu lluniau - ac ambell un yn defnyddio eu ffonau i gael llun slei o'r 'selebs' oedd yn rhan o'r seremoni.

O enwogion i arwyr tawel, roedd amrywiaeth mawr yn y rhai oedd yn cael eu hurddo, ac er y tywydd poeth, doedd neb yn ymddangos yn chwysu yn eu gwisgoedd newydd.

Un o'r enwau mwyaf cyfarwydd i gael eu derbyn oedd Alex Jones, cyn-gyflwynydd ar S4C a chyflwynydd presennol The One Show. Roedd hi'n derbyn gwisg las.

'Mor emosiynol'

"O'dd e'n brofiad ffantastig," meddai. "Do'n i ddim yn gwybod beth i'w ddisgwyl - fel mae aelod newydd - ond o'dd e mor emosiynol.

"Edryches i ar mam a fi'n credu bod hi yn browd i gyd. O'dd e'n awyrgylch mor drwmgalon, ac o'dd e'n teimlo fel dod 'nôl o Lundain i mewn i fynwes Cymru.

"Fel rhywun sydd wedi bod i'r 'Steddfod fel plentyn i gystadlu, i gymdeithasu wedyn pan o'n ni yn y coleg, ac wedyn i weithio, mae'n neis cael dod 'nôl a chael fy nerbyn i'r Orsedd. Dyna yw'r hufen ar y gacen fel petai."

Disgrifiad o’r llun,
Roedd Alex Jones yn fwy na hapus i godi llaw ar rai o aelodau ifanc y dorf

Ond fe wnaeth Alex gyfaddef bod egluro'r Orsedd i bobl ddi-gymraeg wedi bod yn brofiad go od.

"Fi'n trio esbonio wrth bobl yn Llundain beth yw cael dy dderbyn i'r Orsedd a beth mae'r seremoni yn ei olygu, ac mae'n anodd!

"Ti'n sôn am y wisg ac maen nhw'n edrych arnat ti fel bo gen ti ddau ben neu rywbeth! Ond dwi'n siwr y byddan nhw'n browd iawn."

'Dwbl arbennig'

Un arall dderbyniodd wisg las oedd Enid Thomas o Groesoswallt, a hynny am ei chyfraniad i'r Gymraeg a diwylliant tref y Gororau.

"Fel rhywun o'r ardal, yn gyntaf, mae hi'n bleser cael croesawu'r Eisteddfod yn ôl i Faldwyn, ond mae cael fy nerbyn i'r orsedd yn ei gwneud yn ddwbl arbennig.

"Mae'r Orsedd yn rhyw eicon Cymreig, ac mae'n anodd rhoi'r profiad o gael dy dderbyn iddo i mewn i eiriau."

Roedd pawb yn ymddangos mewn hwyliau da wrth i'r holl aelodau deithio o amgylch y maes, a'r rhai gafodd eu derbyn â golwg o ryddhad ar y ffordd yn ôl.

Disgrifiad o’r llun,
Diwrnod o fwynhau nid yn unig i'r aelodau newydd, ond i aelodau presennol fel Dewi Pws ac Angharad Mair

Un gafodd eu hurddo gyda gwisg werdd oedd yr actores a'r gantores Siân James. Fe ddisgrifiodd hi'r profiad fel "anrhydedd".

"Mae cael bod yn rhan o grŵp mor syfrdanol wir yn anrhydedd," meddai.

"Pan 'da chi'n gweld calibr y bobl sydd yn rhan o'r Orsedd, mae'n arbennig gwybod eich bod yn cael eich ystyried yn un ohonyn nhw.

"Ond er rhai o'r enwau mawr, y bobl tu ôl i'r llenni sydd yn ei haeddu yn fwy na neb."

'Arwr tawel'

Un arall o'r bobl y tu ôl i'r llenni oedd Eifion Parry o Abergele, gafodd ei gyflwyno fel "un o arwyr tawel yr Eisteddfod" am ei waith yn cynllunio trafnidiaeth meysydd parcio'r Brifwyl ers blynyddoedd.

"'Chi ddim yn gweithio ar y 'Steddfod yn disgwyl unrhyw glod," meddai. "Chi'n gwneud e achos y'ch bod chi'n mwynhau.

"Fuaswn i 'rioed wedi breuddwydio cael cydnabyddiaeth o'r fath. Ar ôl gweithio mewn Eisteddfodau a gweld yr Orsedd am gyhyd, mae'n rhyw deimlad od bod yn rhan ohono fy hun."

Disgrifiad o’r llun,
Dim y dorf yn unig oedd yn awyddus i gael llun o'r achlysur

Er iddo fod yn gymeriad adnabyddus ar lwyfannau, un oedd yn teimlo'n nerfus am yr achlysur oedd Endaf Emlyn. Roedd yn derbyn gwisg werdd am ei gyfraniad i gerddoriaeth Gymraeg fel artist unigol ac fel rhan o'r band Injaroc.

"'Dydi hi ddim fel fi i fod yn nerfus, ond mae'n rhaid i fi ddweud 'mod i wedi bod bach yn nerfus am hyn.

"Er eich bod chi wedi gweld yr Orsedd cymaint o weithiau dros y blynyddoedd, mae'n brofiad cwbl wahanol bod yn ei chanol hi."