Carcharu troseddwr rhyw am dreisio plentyn
- Cyhoeddwyd

Mae pedoffeil 50 oed o Ben-y-bont ar Ogwr wedi cael ei ddedfrydu i 24 blynedd am nifer o droseddau rhyw yn erbyn plant.
Dywedodd y barnwr wrth Brian Tyrrell, o Bontycymer, fod ei droseddau mor fileinig y byddai yn y carchar tan o leiaf 2027 cyn cael gwneud cais am barôl.
Cafodd ddedfryd o 18 mlynedd o garchar, a bydd yn rhaid iddo dreulio chwe blynedd ar ôl hynny o dan amodau trwydded.
Clywodd Llys y Goron Caerdydd iddo dreisio un plentyn, a chyflawni ymosodiad rhyw ar un arall.
Dywedodd yr heddlu eu bod wedi dod o hyd i ddelweddau o fabandod a phlant ysgol gynradd yn cael eu cam-drin ar ei gyfrifiadur.
Roedd cofnod hefyd ohono yn cynnal sgwrs ar y we gyda phedoffiliaid eraill.
Yn wreiddiol, roedd Tyrrell wedi gwadu'r cyhuddiadau, ond yn ddiweddarach fe blediodd yn euog i dreisio, cam-drin rhyw a meddu lluniau anweddus o blant.
Wrth ei garcharu dywedodd y barnwr Paul Lewis QC hyd yn oed pe bai'n cael ei ryddhau y byddai Tyrrell ar drwydded arbennig tan yn 74 oed.
Dywedodd y barnwr: "Nid oeddech yn malio dim am y niwed a wnaethoch iddynt, eich unig gonsyrn oedd plesio eich chwant rhywiol."
Bydd enw Tyrrell ar y gofrestr troseddwyr rhyw am weddill ei oes.