Morgannwg ar ei hôl hi
- Cyhoeddwyd

Hamish Marshall
Fe wnaeth Hamish Marshall sgorio 70 o rediadau i roi Sir Gaerloyw ar y blaen o drwch blewyn yn erbyn Morgannwg ar ail ddiwrnod y gêm bencampwriaeth yn Abertawe.
Fe wnaeth y batiwr o Seland Newydd rannu 129 o rediadau mewn partneriaeth gyda Benny Howell (67) wrth i'r ymwelwyr gyrraedd 301 am 6.
Fe wnaeth Craig Meschede gymryd 3-70 i Forgannwg, ar ôl i'r tîm cartref fod i gyd allan am 299 yn ystod sesiwn y bore.
Methodd Andrew Salter ac ychwanegu i'w 73 y nos gynt, ond fe lwyddodd Kieran Bull i sgorio 31 cyn i'w wiced syrthio i David Payne 94-73)
Morgannwg v.Sir Gaerloyw - Pencampwriaeth y Siroedd:
Morgannwg 299
Sir Gaerloyw 301-6
Morgannwg 4 pt, Sir Gaerloyw 6 pt