Cyfle i deuluoedd gefnogi byd natur ar Ynys Echni

  • Cyhoeddwyd
Ynys EchniFfynhonnell y llun, Gareth James/Geograph

Bydd teuluoedd yn cysgu dros nos ar ynys fechan oddi ar arfordir de Cymru nos Sadwrn er mwyn dangos eu cefnogaeth i fyd natur.

Mae'r achlysur ar Ynys Echni, neu Flat Holm, yn cael ei drefnu gan gymdeithas gwarchod adar yr RSPB.

Mae'r ynys, sydd rhyw bedair milltir o'r tir mawr, yn eiddo i Gyngor Caerdydd.

Dyma'r darn o dir mwyaf deheuol yng Nghymru, gan fod Ynys Ronech (Steep Holm) gerllaw yn rhan o Loegr.