Miloedd o gefnogwyr yn tyrru i Gaerdydd
- Cyhoeddwyd

Mae Caerdydd yn croesawu degau o filoedd o gefnogwyr chwaraeon wrth i dîm rygbi Cymru wynebu Iwerddon a thîm pêl-droed y brifddinas chwarae gemau cynta'r tymor.
Mae pob tocyn ar gyfer y gêm rhwng Cymru ag Iwerddon yn Stadiwm y Mileniwm wedi eu gwerthu.
Byddant yn teithio i Ddulyn i chwarae Iwerddon eto ar 29 Awst, ac yn croesawu'r Eidal i Stadiwm y Mileniwm ar 5 Medi.
Bydd y gêm dydd Sadwrn yma yn dechrau am 14.30.
Ond ychydig oriau cyn hynny am 12:00 bydd miloedd o gefnogwyr tîm pêl-droed y brifddinas yn gwylio eu tîm yn erbyn Fulham yn y bencampwriaeth wrth i'r tymor pêl-droed ailddechrau.
Mae'r Elyrch yn wynebu talcen caled, nid yn unig yn chwarae oddi cartref ond hynny yn erbyn y pencampwyr Chelsea am 17:30.
Bydd rheolwyr newydd wrth y llyw yng Nghasnewydd a Wrecsam.
Mae tîm Terry Butcher yn teithio i Gaergrawnt (15:00).
Teithio hefyd fydd Gary Mills a Wrecsam, a hynny i Bromley yn y Cynghrair Cenedlaethol.