Gwenno yn ennill Gwobr Albwm Cymraeg y Flwyddyn
- Cyhoeddwyd

Gwenno Saunders sydd wedi ennill Gwobr Albwm Cymraeg y Flwyddyn yn Eisteddfod Genedlaethol Meifod.
Daeth yr albwm Y Dydd Olaf i'r brig a hynny yn erbyn naw o artistiaid eraill.
Dyma albwm unigol gyntaf Gwenno, ac mae wedi ei rhyddhau ar label Peski.
Wrth dderbyn y wobr yng Nghaffi Maes B, dywedodd y ferch o Gaerdydd bod y newyddion wedi bod yn annisgwyl.
"Dim cystadleuaeth yw hi. Dwi'n credu bod dathlu y ffaith bod albwms Cymraeg yn dod mas a'r labelau Cymraeg hefyd achos mae'r albwm Y Dydd Olaf wedi dod mas ar Peski yn wreiddiol... wir yn bwysig.
"Sdim wir ots pwy yw'r enillydd achos does dim un darn o gerddoriaeth yn well na'r llall. So llongyfarchiadau i bawb sydd wedi llwyddo i greu albwm eleni."
'Blwyddyn dda'
Dyma'r ail dro i'r Eisteddfod gynnig y wobr, wedi i Gareth Bonello gipio'r tlws y llynedd ar gyfer ei albwm Y Bardd Anfarwol.
Dywedodd un o drefnwyr y wobr, Guto Brychan, bod bob math o gerddoriaeth ar y rhestr y tro yma: "Mae wedi bod yn flwyddyn dda o ran cynnyrch eleni, ac mae'r amrywiaeth ar y rhestr fer yn adlewyrchu hynny.
"Cydiodd amryw o'r albymau yn nychymyg y rheithgor, a Gwenno ddaeth i'r brig yn ystod y sesiwn feirniadu heddiw."
Y grwpiau eraill ar y rhestr fer oedd 9Bach, Al Lewis, Candelas, Datblygu, Fernhill, Yws Gwynedd, Geraint Jarman, Plu ac R Seiliog.