Beryl Vaughan yn galw am safle parhaol i'r Eisteddfod
- Cyhoeddwyd

Dylai bod un safle parhaol i'r Eisteddfod i'r Brifwyl ddychwelyd yno o bryd i'w gilydd, yn ôl Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith, Beryl Vaughan.
Dywedodd: "Fyswn i'n licio gweld yr Eisteddfod yn meddwl am brynu rhywle... a chael un lle parhaol fel bod nhw yn bod yn dipyn bach mwy o fusnes ac wedyn bod nhw yn gosod y tir a'r lle a dod a'r Eisteddfod yn ôl yna bob ryw beth bynnag."
Cyfeiriodd at y maes ym Meifod gan ddweud bod y safle mewn lle "canolog" gyda phobl yn cael eu denu o'r de a'r gogledd.
Ond dywedodd y byddai'n hapus i weld yr Eisteddfod yn cael ei chynnal mewn adeilad, yn hytrach na chae yng Nghaerdydd.
'Syniad ardderchog'
Ddydd Gwener, dywedodd Elfed Roberts, Prif Weithredwr y Brifwyl, fod hyn yn Eisteddfod heb faes yn cael ei drafod ar gyfer 2018.
Dywedodd Beryl Vaughan: "Dw i'n meddwl bod hynna yn syniad ardderchog, prif ddinas Cymru.
"Dyma'r cyfle i gael rhwbeth yn y canol fel y castell ac wedyn defnyddio'r adeiladau sydd yna oddeutu i gynnal hi achos mae'n mynd i dorri costa', mae'n mynd i fod yn help mawr.
"Gobeithio y bydd Cymry Caerdydd yn falch i gael dod i'r brifddinas i gael Eisteddfod wahanol."
Yn ôl Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith mae 'na le i'r Brifwyl barhau i foderneiddio a newid, fel mae hi wedi gwneud yn y blynyddoedd diwethaf. Ond dywedodd fod angen cyfuniad o'r hen a'r newydd.
"Mae'n debyg bod isio mwy o roc yma, dwi'm yn gwybod. A dwi yn gwybod bod y gigs wedi bod yn arbennig o dda yma.
"Ond wedi deud hynna, mae pobl yn dal i licio pethau hen achos mi esh i gig Cymdeithas yr Iaith nos Sadwrn, ac yna oedd Plethyn. Mi oedd 'na gannoedd yna a sôn am groeso, mi gafon nhw groeso anhygoel."
Chwalu'r targed
Ar ddiwedd wythnos brysur mae Beryl Vaughan yn dweud bod hi wedi bod yn Eisteddfod dda. Mae'n sôn am sawl uchafbwynt gan gynnwys y cyngherddau yn y nos, Y Lle Celf a'r Noson Werin.
Yn ystod y misoedd diwethaf, penderfynodd fynd ar daith gerdded er mwyn hel arian ar gyfer un diwrnod yn yr Eisteddfod.
£10,000 oedd y nod ond mae'n dweud na fyddai yn synnu pe bai'r swm yn cyrraedd £16,000 erbyn i'r holl arian gael ei gasglu.
£267,000 oedd y nod yr oedd yr Eisteddfod wedi ei osod i'r sir ei hel, ond cafodd y targed ei godi i £300,000.
"Ac mi oedd pobl yn deud 'di hynna ddim yn iawn ac o'n i yn deud wrthyn nhw twt twt, targed ydy o, jest dewch i ni wneud. A dwi yn meddwl erbyn heddiw bod ni wedi pasio hwnnw hefyd."
Diolchodd Beryl Vaughan i'r holl bobl sydd wedi gwirfoddoli, gan gynnwys y rhai di-Gymraeg a oedd hefyd wedi bod yn weithgar wrth godi arian.
Ac wrth i'w hamser hi fel cadeirydd ddirwyn i ben mae'n cyfaddef y bydd hi "ar goll yn llwyr" am na fydd yn rhaid iddi feddwl am yr Eisteddfod, ond mae'n edrych ymlaen at gael rhywfaint o wyliau!