Siân Phillips
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

Siân Phillips yn ôl yn llefaru ar lwyfan yr Eisteddfod

8 Awst 2015 Diweddarwyd 10:08 BST

Daeth yr actores fyd-enwog Siân Phillips i'r Maes ddydd Gwener, gan ei bod wrthi yn cael ei ffilmio ar gyfer y rhaglen hel achau 'Coming Home' gan BBC Cymru. Llefarodd y gerdd 'Baled y Pedwar Brenin' gan Cynan, sef y darn a lefarodd pan enillodd hi yn Eisteddfod Genedlaethol Rhosllannerchrugog yn 1945.