Morgannwg v Caerloyw: Trydydd diwrnod
- Cyhoeddwyd
Mae Swydd Gaerloyw'n anelu am fuddugoliaeth dros Forgannwg ar ôl cael targed o 108 i ennill.
Wedi iddyn nhw ail-ddechrau ar 301-6, roedd yr ymwelwyr i gyd allan am 416, mantais o 217.
Dechreuodd ail fatiad Morgannwg yn wael gyda cholled gynnar Jacques Rudolph a Will Bragg, a gwaethygu gwnaeth pethau gyda cholledion Graham Wagg a Mark Wallace.
Roedd y tîm cartref i gyd allan am 224, gan adael targed bychan i'r ymwelwyr ennill a diwrnod cyfan i'w gyrraedd.
Adeiladwyd ar fantais dros nos o ddau rediad ar gyfer Swydd Gaerloyw diolch i berfformiad cryf gan y batwyr olaf, gyda 44 gan Jack Taylor a 37 diguro gan Tom Smith.
Gwnaeth tair wiced gynnar roi sbrag yn olwyn ymateb Morgannwg o'r cychwyn cyntaf.
Gyda'r sgôr ar 25, dioddefodd Bragg ddyfarniad lbw dadleuol ond doedd 'na ddim amheuaeth pan y'i dilynwyd gan Rudolph cyn iddo sgorio.
A phan roedd Aneurin Donald allan hefyd, a'r sgôr yn 32-3, doedd pethau ddim yn edrych yn dda i Forgannwg.
Roedd 45 Colin Ingram yn help, ond golygodd dwy wiced sydyn arall fod sgôr Morgannwg wedi mynd o 131-6 i 132-8.
Gwnaeth hynny safiad hanner cant Andrew Salter a Michael Hogan yn fwy gwerthfawr, ond roedd hi'n ymddangos fodd bynnag mai'r cyfan a gyflawnwyd oedd achosi fymryn o oedi cyn buddugoliaeth anochel i Swydd Gaerloyw.
Morgannwg vSwydd Gaerloyw - Pencampwriaeth y Siroedd:
Morgannwg (batiad cyntaf) - 299
Swydd Gaerloyw (batiad cyntaf) - 416
Morgannwg (ail fatiad) - 224