Caerdydd 1-1 Fulham

  • Cyhoeddwyd
Anthony PilkingtonFfynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,
Cafodd peniad Anthony Pilkington yn yr hanner cyntaf ei ddiystyru oherwydd llawio

Caerdydd 1-1 Fulham

Ymweliad Fulham â Chaerdydd oedd gêm agoriadol y tymor yn y Bencampwriaeth, ac roedd hi'n brynhawn braf yn Stadiwm Dinas Caerdydd.

Wedi hanner cyntaf di-sgor, gwnaeth camgymeriad Simon Moore yn y gôl ganiatau i Matt Smith sgorio i dîm y Cymro Kit Symons yn gynnar yn yr ail hanner.

Methodd Caerdydd fanteisio ar fwy nag un cyfle: Mi ddaeth Joe Mason, Sean Morrison a Matt Connolly yn agos - ond uchafbwynt y pnawn oedd gôl wych yr eilydd Craig Noone bum munud o'r diwedd.

Roedd Russell Slade yn fwy na bodlon efo'r canlyniad a'r perfformiad, ac mae'n bosib y bydd prif sgoriwr y tymor diwethaf Kenwyne Jones yn holliach ar gyfer y daith i Queens Park Rangers ddydd Sadwrn nesaf.