Cymru'n colli i Iwerddon
- Cyhoeddwyd

Cymru 21-35 Iwerddon
Cafodd y Gwyddelod ddechrau campus i'w paratoadau ar gyfer Cwpan y Byd wrth iddyn nhw sgorio pum cais yn Stadiwm y Mileniwm.
Y capten Jamie Haslip sgoriodd y cyntaf, cyn i Darren Cave, Keith Earls, Simon Zebo a Felix Jones groesi hefyd.
Sgoriodd Richard Hibbard, Justin Tipuric ac Alex Cuthbert gais yr un i Gymru.
Yr unig wybedyn yn yr ennaint o safbwynt Iwerddon oedd anaf i Tommy O'Donnell.
Gadawodd asgellwr Ulster Andrew Trimble y cae yn gloff yn ystod yr hanner cyntaf, ac fe dynnwyd capten Cymru Scott Williams oddi ar y cae hefyd wedi anaf i'w bigwrn.
Bydd y canlyniad yn golygu bod Iwerddon yn ail yn rhestr detholion y byd, gan oddiweddyd De Affrica.
Mae'n ben tost i'r hyfforddwyr hefyd wrth iddyn nhw ystyried sut i leihau maint eu carfannau cyn y gemau paratoadol nesaf.
Cafodd y Cymry oedd am wneud argraff brynhawn anghyfforddus wrth i bac mwy profiadol Iwerddon chwarae'n well na phac y crysau cochion.
Bydd hyd at ddeg ohonyn nhw'n colli eu lle yn y garfan yn ystod yr wythnos nesaf, tra bydd Schmidt yn diosg saith o'i chwaraewyr yntau cyn i Iwerddon wynebu'r Alban wythnos nesaf.
Bydd Cymru'n wynebu'r Gwyddelod eto yn Nulyn ar 29 Awst.
Y tro diwethaf i'r timau gyfarfod, curodd Cymru Iwerddon 23-16 mewn gem wych yn Stadiwm y Mileniwm, pam seiliwyd buddugoliaeth y Cymry ar waith di-ildio'r amddiffyn.
Roedd yr ymdrech hon yn gyferbyniad llwyr, gydag Iwerddon yn manteisio ar fylchau ar gyrion y sgarmes a'r sgrym.
Cymrodd y Gwyddelod fantais chwim o gamgymeriadau Cymru.
Wedi cyfnod cynnar o bwysau gan y Cymry daeth hanner awr o oruchafiaeth a thri chais gan y Gwyddelod cyn i Hibbard dirio. Bu bron i Eli Walker gael cais arall i Gymru cyn yr egwyl ond byrhoedlog fu adfywiad y Cymry wrth i'r eilydd Zebo sgorio wedi i Ross Moriarty gael cerdyn melyn am dacl uchel ar asgellwr Munster.
Sgoriodd Felix Jones hefyd cyn i berfformiad Cymru daro tant, ond roedd y gem eisoes wedi ei cholli.
Doedd cais Tipurric, nac un Cuthbert yn yr amser ychwanegol ddim yn ddigon i gau'r bwlch.