Cambridge United 3-0 Casnewydd
- Cyhoeddwyd

Terry Butcher: "Mae tair i ddim yn grasfa, ond dwi ddim yn credu mai crasfa oedd hi o gwbl."
Caergrawnt 3-0 Casnewydd
Mae clwb Casnewydd wedi gweld llawer o newidiadau dros yr haf ers i Terry Butcher gael ei benodi'n rheolwr llawn amser y clwb, ond mae'n sicr y byddai wedi dymuno dechreuad gwell i'r tymor na hyn.
Sgoriodd Barry Corr ddwy gôl, a Robbie Simpson 10 munud cyn amser llawn.
Dywedodd Terry Butcher wrth Chwaraeon BBC Cymru: "Mae tair i ddim yn grasfa, ond dwi ddim yn credu mai crasfa oedd hi o gwbl.
"Roedd ein meddiant yn dda, ac yn yr hanner cyntaf ro'n i'n meddwl bod pethau'n weddol gyfartal, fe daron ni'r postyn a chael cyfle neu ddau arall.
"Pan roedden ni ar ei hôl hi 2-0 roedden ni'n trio cwrso'r gêm ac fe wnes i fentro a rhoi cyfle i chwaraewr 18 oed ac un 17 oed, ond dyna ni, dyna'i gyd sy' 'da ni."