Bromley 3-1 Wrecsam
- Cyhoeddwyd

Bromley 3-1 Wrecsam
Mae Gary Mills wedi profi sawl uchafbwynt yn ei yrfa fel chwaraewr gyda Nottingham Forest... fel rheolwr, nid Bromley oedd y lle gorau i ddechrau tymor fel rheolwr Wrecsam.
Serch hynny, Wrecsam sgoriodd yn gyntaf, wedi i Wes York gael cyffyrddiad ysgafn ar groesiad isel Dominic Vose.
Ond daeth Bromley'n gyfartal o fewn dwy funud pan danio Sean Francis groesiad Joe Anderson i dop y rhwyd.
Sgoriodd Bromley ddwywaith eto cyn yr egwyl wrth i Alex Wall fanteisio ar bêl rydd i sgorio cyn i Moses Emmanuel ergydio heibio i Cameron Belford.
Dywedodd rheolwr Wrecsam Gary Mills wrth Chwaraeon BBC Cymru: "Ni oedd yn rheoli'r chwarae ac roedd gennym ni gymaint o'r meddiant, ond fe ildion ni gic rydd dwp.
"Ddywedais wrth y chwaraewyr cyn i ni fynd allan y byddai ciciau rhydd yn fel ar fysedd ein gwrthwynebwyr, ond gwnaeth Manny [Emanuel Smith] geisio ennill pêl doedd e byth yn mynd i'w hennill... a dydyn ni ddim yn delio â hynny.
"Mae'n un anodd... ond mae goliau'n newid gemau ac mae penderfyniadau'n newid gemau ac fe wnaethon ni rai penderfyniadau oedd yn anghywir."