Chelsea 2-2 Abertawe
- Cyhoeddwyd

Chelsea 2-2 Abertawe
Mae'n debyg na fyddai Garry Monk wedi dewis taith i wynebu'r pencampwyr fel y gêm ddelfrydol i ddechrau tymor newydd.
Ond yn hytrach na bod yn hapus gyda gêm gyfartal efallai y bydd e'n siomedig na lwyddodd ei dîm i fanteisio'n llawn ar y dyn ychwanegol oedd gan Abertawe am dros hanner awr wedi cerdyn coch Courtois.
Gwnaeth cic rydd Oscar roi Chelsea ar y blaen cyn i Andre Ayew gael gôl i Abertawe.
Rhoddodd Federico Fernandez groesiad Willian heibio'i golwr ei hun cyn i Courtois gael ei hel o'r cae am lorio Gomis.
Daeth Asmir Begovic i'r cae ond methodd e rwystro cic Gomis o'r smotyn.
Er y dyn ychwanegol wnaeth Abertawe ddim sgorio eto.
Rhwydodd Gomis, ond roedd e'n cam-sefyll, ac fe wnaeth Jefferson Montero orfodi arbediad gwych gan Begovic.