BBC Cymru Fyw

Efydd i Jazz Carlin yn Rwsia

Published
image copyrightGetty Images
image captionEnillodd Jazz Carlin fedal aur ym mhencampwriaethau Ewrop yn 2014
Mae Jazz Carlin wedi ennill medal efydd yn yr 800 metr dull rhydd ym Mhencampwriaeth Nofio'r Byd yn Rwsia.
Gosododd yr Americanes Katie Ledecky record byd newydd yn y ras.
Sicrhaodd Carlin fedal gydag amser o wyth munud, 18.15 eiliad.
Ond amser Ledecky o 8:07.39 gipiodd y penawdau.
"Rydw i wrth fy modd," meddai Carlin. "Doeddwn i ddim yn sylweddoli pa mor gyflym roedd Katie'n mynd ond mae 8:07.39 yn anhygoel."