Rhybudd biniau Cyngor Caerdydd

  • Cyhoeddwyd
Wheelie bins and boxes
Disgrifiad o’r llun,
Daeth y newidiadau i rym ar 27 Gorffennaf

Mae cannoedd o gartrefi yng Nghaerdydd wedi derbyn rhybudd am roi'r math anghywir o wastraff allan ar gyfer casgliadau ysbwriel ar ôl i reolau newydd gael eu cyflwyno.

Dywed y cyngor fod 1,460 o negeseuon rhybudd wedi eu dosbarthu ers i'r newidiadau ddod i rym ar 27 Gorffennaf.

Yn ôl llefarydd fe fydd trigolion yn cael eu dirwyo os ydyn nhw'n parhau i dorri'r rheolau.

Cafodd y rhan fwyaf o'r negeseuon rhybudd -361- eu dosbarthu yn ardal Glan yr Afon, gyda nifer uchel hefyd yn Adamsdown a Grangetown

Hyd yma ni chafodd unrhyw rybuddion eu dosbarthu yn ardaloedd Tre-biwt, Cathays, Y Tyllgoed, Gabalfa, Yr Eglwys Newydd a Thongwynlais.

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Caerdydd: "Nid ydym yn bod yn llawdrwm gan fod yna raglen o addysgu yn cyd-fynd â'r broses orfodi. Mae yna griw ychwanegol o swyddogion yn gweithio gyda chriwiau arferol, a hefyd yn cynnig cefnogaeth i drigolion.

"Ond er mwyn i ni gyrraedd y targedau ailgylchu statudol mae'n rhaid i drigolion gydymffurfio â'r drefn newydd. Bydd y rhai sydd ddim yn gwneud hyn yn wynebu dirwy.

Mae'n rhaid i bob cyngor yng Nghymru ailgylchu 58% o'u gwastraff erbyn Mawrth 2016 neu wynebu dirwyon llym.