Ffermwyr yn galw am weithredu brys
- Cyhoeddwyd
Mae ffermwyr o Gymru wedi bod yn cymryd rhan mewn 'uwch-gynhadledd argyfwng' gyda rhybudd fod y pris maen nhw'n ei dderbyn am eu hŵyn wedi cyrraedd lefelau difrifol o isel.
Maen nhw'n honni bod y ganran o gig oen cartref sy'n cael ei werthu yn y siopau wedi gostwng o 60% i 50% yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.
Mae ffermwyr eisoes wedi cynnal protest y tu allan i un o'r archfarchnadoedd gan ddweud eu bod yn anhapus fod cig oen o Seland Newydd yn cael ei werthu pan fo tymor cig oen Cymreig ar ei anterth.
Dywed yr archfarchnadoedd eu bod am i gwsmeriaid gael cynnyrch o safon uchel sydd hefyd yn fforddiadwy.
Undeb amaethwyr yr NFU drefnodd y cyfarfod ddydd Llun yn Llundain.
Yn dilyn y cyfarfod heddiw mae undebau ffermwyr wedi cyhoeddi datganiad ar y cyd yn galw ar lywodraeth y DU, manwerthwyr a phroseswyr a'r Undeb Ewropeaidd i beidio anwybyddu arwyddion bod amaethu mewn cyflwr argyfyngus.
Fe ddywed y datganiad gan NFU Cymru, NFU, NFU'r Alban ac Undeb Amaethwyr Ulster:
"Byddwn yn annog gweinidogion amaeth ar draws y DU i gyfarfod ar unwaith.
"Mae angen iddyn nhw gyfaddef bod rhywbeth sylfaenol wedi mynd o'i le yn y gadwyn gyflenwi, ac i weithredu i gywiro hynny... mae angen sicrhau bod cytundebau ffermwyr yn fwy tymor hir ac yn decach o safbwynt risg a gwobr.
"Ar hyn o bryd mae nifer o gytundebau yn rhoi'r risg i gyd ar y ffermwr gyda fawr o wobr ar y diwedd.
"Ry'n ni'n galw hefyd ar fanwerthwyr i beidio dibrisio bwyd Prydeinig fel llaeth er mwyn denu cwsmeriaid. Dechreuwch ddangos eich bod yn sicrhau bod yr holl fwyd yr ydych yn ei werthu yn dod o fferm sydd wedi cael pris teg am y cynnyrch.
"Mae cyfarfod brys o Gyngor Gweinidogion Amaeth Ewrop ar 7 Medi. Rydym yn galw ar holl weinidogion amaeth y DU i sefyll dros amaethwyr Prydain yn y cyfarfod yna."
'Yng Nghymru mae'r cig oen gorau yn y byd'
Mae'r undeb am berswadio archfarchnadoedd i newid agwedd, ac maen nhw hefyd yn galw am gefnogaeth gwleidyddion o'r DU ac Ewrop.
Honna'r ffermwyr fod archfarchnadoedd Tesco ac Asda yn gwerthu cig oen rhatach o Seland Newydd, a bod hynny wedi arwain at ostwng prisiau cig oen yma hefyd.
Dywedodd Dylan Morgan, Pennaeth polisi NFU Cymru: "Mae yna nifer o ffactorau. Mae gwerth uchel y bunt wedi effeithio ar ein gallu i allforio, mae yna broblemau yn Calais, ac yn hanesyddol mae canran uchel o'n cig oen wedi mynd i wledydd de Môr y Canoldir, lle mae'r argyfwng ariannol wedi effeithio ar eu gallu i brynu ein cynnyrch.
"Ond mae'r ffaith fod cig oen o Seland Newydd yn llifo i'n marchnadoedd yn ffactor pwysig - a hynny pan mae yna gyflenwad digonol o'r cig oen gorau yn y byd ar gael yma."
Dywed undebau fod y bwlch rhwng y pris mae'r ffermwr yn ei dderbyn a'r pris yn y siopau wedi ymestyn yn sylweddol.
Ymateb Tesco
Dywed Tesco fod y rhan fwyaf o'r cig oen y maen nhw'n ei werthu yn Gymreig a Phrydeinig tra bod y cownteri cig ffres yn gwerthu cig oen Prydeinig yn unig.
"Rydyn ni'n cydnabod ansawdd cig oen Cymreig a Phrydeinig ac rydyn ni'n falch mai ni yw ei brynwr mwya'," meddai llefarydd.
"Rydyn ni'n labelu tarddiad ein cig oen yn glir, ac rydyn ni'n anelu i gynnig y dewis o brynu cynnyrch Prydeinig i'n cwsmeriaid, yn enwedig gan fod hynny'n dymhorol ar hyn o bryd.
"Mae cwsmeriaid yn adnabod ansawdd uchel cig oen Seland Newydd hefyd, ac mae'n help i'w gadw'n fforddiadwy ar gyfer y cwsmer."
Dadansoddiad Gohebydd Amgylchedd BBC Cymru, Iolo ap Dafydd
Ar yr union adeg mae'r ffrae ddiweddaraf yma rhwng y cynhyrchwyr - y ffermwyr - a'r gwerthwyr, a'r cwmnïau sy'n darparu ar gyfer y farchnad - mae Prifysgol Aberystwyth yn casglu ffeithiau ar gyfer eu harolwg busnes fferm blynyddol.
Dywed y cyfarwyddwr Tony O'Regan fod mwy o ffermwyr yn debygol o adael y byd amaeth. A dengys ystadegau'r 10 mlynedd diwethaf, fod dros fil wedi gadael y diwydiant ers 2004. Yn y sector llaeth mae traean o ffermwyr wedi newid cyfeiriad neu orffen amaethu'n llwyr.
Faint mae'r pwysau masnachol yna, a'r ergydion eraill i ffermwyr - y bunt gref, colli marchnadoedd yn Ne Ewrop gydag ansefydlogrwydd economaidd Groeg, Sbaen a'r Eidal a channoedd o loriau wedi eu parcio yn Calais a Chaint ar hyn o bryd, yn poeni'r siopau mawr, dyn a ŵyr.
Dywed y ffermwyr nad ydyn nhw'n gofyn am gardod, ond ewyllys da. Mae angen sicrwydd arnyn nhw i baratoi ŵyn i'r farchnad - i'w cenhedlu, eu meithrin a'u pesgi, ac mae hynny yn costio arian ac ymroddiad. Rhyw gytundeb fyddai'n rhoi sicrwydd er gwaethaf pegynau naturiol y farchnad rydd y mae'r ffermwyr.
A cheisio pwysleisio hynny y bydd swyddogion yr NFU , a pherswadio rheolwyr a chyfrifwyr yr archfarchnadoedd, y dylen nhw arddangos mwy o ymrwymiad i gynhyrchwyr bwyd Cymru a gweddill Prydain.
Doedd nifer o archfarchnadoedd ddim am gael eu holi, ond roedd Tesco - ar e-bost, nid o flaen camera - yn dadlau bod y rhelyw o'r cig ar werth yn eu siopau ar hyn o bryd yn gig Cymreig a Phrydeinig.
Pryder y ffermwyr ydy y bydd prisiau is, yn arwain at fwy o ffermwyr yn methdalu, ac y bydd angen mewnforio mwy o fwyd o dramor yn y dyfodol o ganlyniad.
'O Gilfynydd i Gaerdydd'
Mae Jonathan Huntley, sy'n ffermio ger Pontypridd, yn amcangyfri' y gallai golli hyd at £20,000 eleni os yw prisiau'n aros yn yr unfan.
"Rydyn ni'n gwerthu ein holl ŵyn am swm sylweddol is na'r gost cynhyrchu.
"Mae'n golled sylweddol, a dim ond amser a ddengys a allwn ni gynnal hynny yn y dyfodol."
Dywedodd fod maint ffermydd Seland Newydd yn fantais iddyn nhw, ac er mwyn gallu cystadlu, byddai'n rhaid iddo ehangu ei dir "o Gilfynydd i Gaerdydd".
Poeni am brisiau llaeth
Mae'r NFU hefyd yn bryderus ynghylch y toriadau yn y pris mae ffermwyr yn ei dderbyn am eu llaeth.
Dywedodd Morrisons eu bod yn ceisio pasio prisiau isel ymlaen i'w cwsmeriaid pryd bynnag mae hynny'n bosib.
Yn ôl y cyfarwyddwr masnachol Darren Blackhurst: "rydyn ni'n cydnabod fodd bynnag, fod y galw byd-eang wedi gostwng a bod hyn wedi creu gorgyflenwad o laeth Prydeinig sy'n arwain at amodau anodd ar gyfer nifer o ffermwyr llaeth ar hyn o bryd."
Dywedodd Asda eu bod wedi eu hymrwymo i brynu cynnyrch Prydeinig yn gyntaf.