Dathliad pen-blwydd Canolfan Tŷ Newydd ar faes yr Eisteddfod
- Cyhoeddwyd

Ar faes yr Eisteddfod ddydd Sadwrn, bu Llenyddiaeth Cymru yn dathlu pen-blwydd Canolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd yn Llanystumdwy yn 25 oed.
Cafwyd cyflwyniad gan reolwr dros dro'r ganolfan, Leusa Llewelyn, ac ambell gân gan Gwyneth Glyn - gydag ychydig o help gan ei mab Maelgwn ar yr organ geg.
Agorodd Canolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd ei drysau i groesawu pobl i'r cwrs barddoniaeth cyntaf yn Ebrill 1990.
Mae cannoedd o oedolion a phobl ifanc wedi ymweld â Thŷ Newydd bob blwyddyn ers hynny i gymryd rhan mewn cyrsiau ysgrifennu.
Adeiladwyd Tŷ Newydd, sef cartref olaf y Prif Weinidog David Lloyd George, yn yr 16eg ganrif, a chomisiynodd e bensaer enwog Portmeirion, Clough Williams-Ellis, i addasu'r tŷ i'w chwaeth ei hunan.
Dywedodd Leusa: "Pobl sydd â pherthynas â Thŷ Newydd sy'n diffinio'r lle.
"Dwi wedi clywed lot o straeon gan awduron a beirdd yn dweud bod Tŷ Newydd wedi chwarae rhan fawr yn eu datblygiad nhw - a bydded i hynny barhau.
"Dwi'n teimlo fel bod lot o bobl yn teimlo eu bod nhw'n berchen ar ddarn bach o'r lle."