Edrych 'mlaen at Eisteddfod Sir Fynwy 2016
- Published
Gyda Phrifwyl Maldwyn a'r Gororau ar ben, mae golygon Eisteddfodwyr yn troi eisoes tuag at Sir Fynwy'r flwyddyn nesaf.
Bu Elen Elis, trefnydd yr Eisteddfod Genedlaethol yn siarad â Cymru Fyw am y paratoadau.
"Mae'r cynlluniau wedi bod yn mynd yn dda iawn," meddai. "'Da ni wedi bod yn pwyllgora ac yn trafod syniadau ers bron i flwyddyn 'wan.
"Mae Cyngor Sir Fynwy yn awyddus ac yn frwdfrydig iawn, a lot o'r staff wedi dechrau dysgu Cymraeg. Maen nhw wedi bod ar y maes eleni ym Meifod ac wedi mwynhau. Mae pobl yr ardal yn frwdfrydig."
Cadeirydd 2016
Dywedodd Cadeirydd pwyllgor gwaith Eisteddfod Sir Fynwy a'r cyffiniau, Frank Olding: "Mae'r paratoadau'n mynd yn hwylus iawn chwarae teg.
"Pawb wedi dod at ei gilydd, ac mae gwahanol bwyllgorau wedi'u sefydlu ac yn gweithio'n galed iawn.
"Ni wedi cael cefnogaeth enfawr gan y cyngor, yr aelod seneddol, aelod y Cynulliad, ac mae pawb yn gweithio'n hwylus.
"Mae'r pwyllgorau sydd gennym ni yn gymysgedd o bobl Gymraeg a di-Gymraeg, sy'n bwysig o ran ennyn ymwybyddiaeth. Dy'n ni'n trio bod mor gynhwysol â phosib."
Dywedodd Ms Elis mai penderfyniad ar y cyd gyda'r cyngor a'r Eisteddfod oedd mynd â'r Brifwyl i Sir Fynwy.
"'Da ni'n mynd i'r ardaloedd am fod y cyngor neu bobl leol yn dod atom ni ac yn gofyn i ni ystyried eu hardal nhw. Wedyn be' sy'n digwydd ydi bod pobl yn mynd i weld yr ardal i weld os oes 'na le addas ar gyfer llwyfannu'r ŵyl.
"Felly fe ddaeth Cyngor Sir Fynwy aton ni 'chydig o flynyddoedd yn ôl, a 'da ni wedi ymateb i hynny."
'Eisteddfod wahanol'
Yn trafod beth y dylai Eisteddfodwyr ddisgwyl o Eisteddfod 2016, dywedodd Mr Olding ei fod yn disgwyl iddi fod yn un reit wahanol i eleni.
"Mae'r Fenni yn lle braf - yn debyg iawn i Maldwyn o ran hynny. Mae'r maes ar bwys yr afon... wedi'i amgylchynu gan fryniau'. Mae'n lle hyfryd.
"Bydd y maes dipyn yn wahanol. Ym Meifod, mae'r maes i gyd gyda'i gilydd fel un bloc, ond bydd ein maes ni ar hyd yr afon.
"Fe fydd hi ryw ganllath o ganol y dref, felly bydd modd i bobl fynd 'mewn i'r dref."
Dyma fydd y tro cyntaf i'r Eisteddfod ymweld â Sir Fynwy ers 1913, ond mae Mr Olding yn dweud bod gan yr ardal lawer i'w gynnig.
"Mae cymeriad y sir yn mynd i roi blas arbennig ar yr ŵyl," meddai.
"Un o'r pethau sy'n denu pobl i Eisteddfodau yn y de-ddwyrain yw'r ffaith fod Caerdydd yn agos. Bydd 'na fwy o bobl yn agos iawn.
"Efallai y bydd 'na fwy o gyfle i bobl grwydro'r trefi o gwmpas yr ardal, a falle y bydd naws mwy trefol i'r peth."
'Lot o arian'
Ond un mater sy'n peri pryder i bob cadeirydd yw'r ymdrech anferthol o gasglu arian ar gyfer llwyfannu'r Brifwyl, a dyw Mr Olding ddim yn eithriad.
"Mae gennym ni lot o arian i'w godi," meddai. "Hyd yn hyn, dy'n ni wedi codi £25,000, wedi dechrau codi arian o ddifrif ym mis Tachwedd.
"Ond mae pethau mawr gennym ni ar y gweill, ac rwy'n ffyddiog y byddan ni'n cyrraedd y targed. Mae rhyw £250,000 arall angen ei gasglu. Mae'n lot o arian."
Heriau Sir Fynwy
Gyda phob Eisteddfod yn dod â'i heriau penodol ei hun, mae Ms Elis yn dweud mai cyflwyno'r Brifwyl mewn ardal ddi-Gymraeg fydd y sialens fwyaf yn 2016.
"Mae o bron yn fwy pwysig i fynd â'r Eisteddfod i ardal sydd efallai ddim mor draddodiadol Gymreig. Er bod 'na lot o bobl sy'n byw yno hefo diddordeb yn y Gymraeg a diwylliant Cymru, mae hi'n bwysig ein bod ni'n mynd yno.
"Yn y ddwy flynedd y byddwn ni yn yr ardal, mae'n mynd i roi cyfle i ni gyd-dynnu, ac mae pobl ddi-Gymraeg, pobl sy'n dysgu Cymraeg, a'r bobl iaith gynta' i gydweithio gyda'r un gôl, sef cael Eisteddfod lwyddiannus.
"Be' sy'n dda ydi bod y cyngor a'r bobl leol yn cyd-dynnu.
"Ond yr her fydd ymrwymo pobl ddi-Gymraeg yr ardal, a'u denu nhw i'r maes i fwynhau. Mae 'na lot wedi'u hymrwymo'n barod ac mae angen parhau i wneud hynny.
"'Da ni wedi cael croeso arbennig hyd yn hyn a dwi'n siŵr y byddwn ni'n parhau i gael croeso yno. Gyda'n gilydd 'da ni'n gobeithio y bydd hi'n 'Steddfod lwyddiannus."