Gwrthdrawiad A470: Menyw yn yr ysbyty

Mae menyw wedi ei chludo i'r ysbyty mewn ambiwlans awyr wedi gwrthdrawiad ar yr A470 ym Mhowys.

Digwyddodd y gwrthdrawiad, rhwng dau gar a charafan, i'r gogledd o Felin Fach tua 12:05 ddydd Sadwrn.

Dywedodd llefarydd ar ran gwasanaeth tân y canolbarth a'r Gorllewin fod menyw wedi bod yn sownd. Fe gafodd ei rhyddhau ac mae hi bellach yn Ysbyty Treforys.

Roedd rhan o'r ffordd ynghau am gyfnod ond mae hi bellach wedi ei hail-agor.