Rôl newydd i AS Ceredigion
- Published
Wythnos ers i arweinydd newydd y Democratiaid Rhyddfrydol Tim Farron gyhoeddi rhestr o'i lefarwyr mainc flaen, mae AS Ceredigion, Mark Williams, wedi cael ei benodi i rôl newydd.
Mr Williams fydd is-gadeirydd ymgyrchoedd seneddol y blaid, ac fe fydd yn arwain ei hymgyrch ar gymunedau gwledig.
Mark Williams a Nick Clegg oedd yr unig ddau o ASau'r blaid na chafodd eu cynnwys yng 'nghabinet' y Democratiaid Rhyddfrydol.
Roedd y cyn arweinydd Nick Clegg wedi gwrthod y rôl roedd Mr Farron wedi ei gynnig iddo fe.
Kirsty Williams, arweinydd y blaid yn y Cynulliad gafodd ei phenodi'n llefarydd ar Gymru, a'r cyn weinidog yn Swyddfa Cymru, y Farwnes Jenny Randerson gafodd y portffolio trafnidiaeth.
Ar y pryd, dywedodd swyddfa Mr Farron y byddai Mark Williams yn cael "swydd ymgyrchu allweddol" ym mis Awst.