Dyn yn y llys ar gyhuddiad o dreisio
- Published
Mae dyn wedi ymddangos yn y llys wedi ei gyhuddo o dreisio ar ôl i fenyw wedi ei hanafu gael ei darganfod mewn mynwent yng Nghaerfyrddin.
Daethpwyd o hyd i'r fenyw ar safle Eglwys Dewi Sant yn ystod oriau man ddydd Mawrth.
Dywedodd Heddlu Dyfed Powys fod dyn 29 oed wedi ei gyhuddo o dreisio ac o geisio achosi niwed corfforol difrifol.
Roedd e yn Llys Ynadon Llanelli ddydd Sadwrn ac fe gafodd ei gadw yn y ddalfa.