Bad achub yn helpu pobl ger Llandudno
- Cyhoeddwyd
Cafodd dros ddwsin o bobl eu cludo i ddiogelwch heddiw wedi i'r llanw ddechrau eu hynysu ar fanciau tywod ger Llandudno.
Roedd rhai wedi ceisio dianc trwy ddechrau cerdded trwy ddarn o ddŵr peryglus.
Wedi galwad 999 gan aelod o'r cyhoedd, galwyd y Bad Achub a Gwylwyr y Glannau atyn nhw ychydig wedi 13:30 ddydd Sadwrn.
Roedd hi'n ymddangos nad oedd y bobl a gafodd eu hachub yn sylweddoli pa mor beryglus oedd yr amodau. Doedd dim angen triniaeth feddygol ar yr un ohonyn nhw.