Gwrthdrawiad Tongwynlais: Gyrrwr wedi marw

  • Cyhoeddwyd
Gwrthdrawiad

Mae gyrrwr wedi marw wedi gwrthdrawiad tua 02:50 fore Sul yn Nhongwynlais ger Caerdydd.

Roedd Renault Clio glas yn teithio ar hyd Heol y Fforest pan drodd e wyneb i waered.

Cafodd y gyrrwr anafiadau angheuol, ac fe gafodd tri theithiwr eu trin yn y fan a'r lle gan barafeddygon cyn iddyn nhw gael eu cludo i Ysbyty'r Brifysgol yng Nghaerdydd.

Mae dau ohonyn nhw mewn cyflwr difrifol.

Mae Heddlu'r De yn apelio ar unrhywun a welodd y gwrthdrawiad, neu'r Renault Clio cyn y gwrthdrawiad ac sydd heb gysylltu â nhw eto i wneud hynny.

Bu'r ffordd ynghau am ryw bedair awr i alluogi'r heddlu i gynnal eu hymchwiliad cychwynnol.