Cwpan Pêl-rwyd y Byd: Cymru 71-44 Zambia

Cymru v Zambia Image copyright Netball World Cup
Image caption Llwyddodd amddiffyn cryf Cymru i ffrwyno ymdrechion Zambia

Mae Cymru wedi ennill eu dwy gêm gyntaf yn grŵp D yng Nghwpan Pêl-rwyd y Byd yn Awstralia wedi iddyn nhw guro Zambia o 71-44.

Mae gêm grŵp olaf Cymru fore Llun yn erbyn Uganda.

Os all Cymru ennill honno, tîm Trish Wilcox fydd ar frig y grŵp. Byddai hynny'n golygu eu bod nhw yn yr Wyth Cyntaf yn y rownd nesaf - gydag Awstralia, Lloegr, a'r ail yng ngrŵp C, sef De Affrica yn ôl pob tebyg.

Dywedodd Wilcox: " Er bod y tîm wedi treulio'r chwarter cyntaf yn setlo yn erbyn steil chwim o chwarae gan dîm Zambia, roedden ni'n bles iawn i fod pymtheg pwynt ar y blaen ar yr hanner.

"Wnaeth newidiadau yn yr amddiffyn ar gyfer y trydydd chwarter ddim amharu ar y pwysau amddiffynnol ac fe gadwon ni'r angerdd i ymestyn ein mantais wrth fynd fewn i'r chwarter olaf.

"Roedd hynny'n golygu bod pob un o'n chwaraewyr ni wedi bod ar y cwrt yn y gystadleuaeth erbyn diwedd y gêm hon."

"Ro'n i'n arbennig o bles gyda'r pwysau amddiffynnol gan y tîm cyntaf a'r cyffyrddiadau olaf gan ein saethwyr."

Mae Suzy Drane, capten y tîm, wedi bod yn trafod gobeithion carfan merched Cymru yn y gystadleuaeth gyda Cymru Fyw.