Arweinyddiaeth Llafur: Ymgyrch Corbyn yn dod i Gymru
- Published
Mae Jeremy Corbyn yn dod â'i ymgyrch ar gyfer arweinyddiaeth Llafur i Gymru, ddyddiau cyn i'r papurau balot gael eu hanfon allan.
Mae'r gwleidydd profiadol asgell chwith wedi ennill cefnogaeth mwy o bleidiau etholaethol yng Nghymru a'r DU na'r tri ymgeisydd arall.
Bydd Mr Corbyn yn ymweld â Llandudno a Chei Connah ddydd Llun a Thredegar a Chaerdydd ddydd Mawrth.
Mae Andy Burnham, Yvette Cooper a Liz Kendall hefyd yn y ras.
Mae nifer o ffigyrau amlwg gan gynnwys y cyn Brif Weinidog Tony Blair wedi awgrymu y byddai plaid Lafur o dan arweiniad Mr Corbyn yn cael ei hystyried yn rhy eithafol gan bleidleiswyr.
Dydy'r Prif Weinidog Carwyn Jones ddim wedi cefnogi un o'r ymgeiswyr yn gyhoeddus, ond mae e wedi dweud y byddai Jeremy Corbyn yn "ddewis anarferol" fel arweinydd nesaf Llafur.
Dywedodd y cyn Brif Weinidog Rhodri Morgan am Jeremy Corbyn: "Nid wyf fi yn gallu ei gymryd o ddifri fel darpar Brif Weinidog. Nid wy'n siŵr ei fod yn cymryd ei hun o ddifri fel Prif Weinidog ar ôl 2020!"
Bydd yr enillydd yn cael ei enwi ar 12 Medi.