Cwpan Pêl-rwyd y Byd: Cymru 49-47 Uganda
- Cyhoeddwyd

Fe lwyddodd Cymru i guro Uganda o 49-47 yn dilyn chwarter olaf gwych yn eu gêm olaf yng Ngrŵp D yng nghystadleuaeth Cwpan Pêl-rwyd y Byd yn Sydney, Awstralia ddydd Llun.
Bydd tîm Trish Wilcox nawr ymysg yr wyth olaf ac yn ymuno gydag Awstralia, Lloegr a De Affrica i weld pwy fydd yn cyraedd y rownd gyn-derfynol.
Roedd Cymru ar y blaen tan y trydydd chwarter, pan aeth Uganda ar y blaen o 39-35.
Ond roedd perfformiadau gwych gan Chelsea Lewis ac Emma Thomas yn golygu fod Cymru wedi sicrhau buddugoliaeth haeddianol yn y diwedd.
Bydd y tîm yn wynebu cryn sialens yn y rownd nesaf gan fod gêm yn erbyn Awstralia - sydd ar frig rhestr detholion y byd - yn ogystal â gemau yn erbyn Lloegr (3ydd yn y byd) a De Affrica (5ed yn y byd) yn eu disgwyl.
Mae Suzy Drane, capten y tîm, wedi bod yn trafod gobeithion carfan merched Cymru yn y gystadleuaeth gyda Cymru Fyw.