Colofn Jo Blog

  • Cyhoeddwyd
Jo Blog

Ar ôl ypsetio'r ffermwyr yn y Sioe Fawr, mae Jo Blog yn ei ôl! Blew sydd wedi ei gynhyrfu y tro yma?

"Neb dan 40 yn shafio"

"Rilacsio efo'r locsyn!" Honna oedd lein fawr Karen Owen ar Radio Cymru yn ddiweddar. Sôn oedd hi am dyfiant Eurig Salisbury.

Mae pob bachgen sydd am fod yn ddyn i'w weld yn tyfu locsyn. Rhai yn fwy llwyddiannus na'i gilydd. Does dim llawer o frwdfrydedd yn perthyn i rai barfau, mae rhai yn denau ac yn llipa ac yn anghynnes.

Mae yna rai eraill mwy egnïol i'w cael, fel un y Prifardd-in-waiting Salisbury. Bechgyn ieuanc glandeg efo nyth anferth o locsyn yn cuddio'u hwynebau, yn estyn allan o'u blaenau nhw ac i lawr at eu pengliniau. Dynion Go Iawn.

Mae myfyrwyr a chwaraewyr rygbi, hyd yn oed athrawon yn eu tyfu nhw. Ond heblaw am Paul Flynn mae gwleidyddion yn eu hosgoi nhw.

Am ymddangos yn lân ac agored maen nhw mae'n siŵr. Dychmygwch Carwyn Jones, Guto Bebb a Rhun ap Iorwerth mewn locsyn. Dychrynllyd.

"Sinistr"

Ond ar y cyfan dwi'n gweld y busnes locsyn ma'n od. Mae rhywbeth reit sinistr amdano fo. Mae o fel petai pobl yn cuddio tu ôl iddyn nhw.

Ac er bod y llygaid fel dau wy disglair mewn nyth, mae rhywun yn tueddu i edrych ar y locsyn yn hytrach na'r wyneb.

Mae bechgyn yn edrych fel dynion canol oed ac mae hi'n anodd adnabod pobl 'dach chi'n gyfarwydd â nhw hyd yn oed. Yn enwedig wrth edrych i fyny arnyn nhw o'r scooter.

Ar ffilm ddu a gwyn fydden nhw'n edrych fel criw o weinidogion Methodist o'r G19 yn mynd ar pyb crôl o gwmpas y dre. Hanner dwsin o'r Parchedig Abel Hughes, Pen y Bont, Tre-lech (1835-1952).

Ella bod hyn yn egluro pam bod gwleidyddion yn debycach o'u hosgoi nhw, ond ar y cyfan dwi ddim cweit yn deall pam eu bod nhw mor boblogaidd ymysg yr ifanc.

Dyma i chi genhedlaeth heb rithyn o wrthryfel, hiwmor nac eironi yn perthyn iddi. Allwn i ddeall petaen nhw'n gwneud rhyw Ddatganiad Mawr ond dwi ddim hyd yn oed yn siŵr y bydden nhw'n gwybod pwy oedd Osama bin Laden.

Yr unig eglurhad yw ffasiwn. Ac mae ffasiwn yn gyfystyr â rhyw. Mae'n rhaid bod merched yn gweld locsyn yn atyniadol mewn rhyw ffordd.

Dyna pam dwi'n meddwl na'i dyfu fy mwstash yn locsyn. Fyddai'n eu curo nhw i ffwrdd o'r sgwter efo fy maglau mae'n siŵr!

Bydd Jo Blog yn ei ôl ar wefan Cymru Fyw pan fydd rhywun neu rywbeth wedi codi ei wrychyn.

Fe hoffai aelodau tîm Cymru Fyw dynnu eich sylw at y ffaith nad ydym ni erioed wedi gweld Jo Blog yn ein swyddfeydd, felly rydym ni yn cymryd mai cymeriad dychmygol ydy o!