Dim cof o ddigwyddiad Taser meddai dyn meddw
- Cyhoeddwyd
Mae llys wedi clywed fod cyn-filwr wedi bod mor feddw ac allan o reolaeth fel nad oedd ganddo unrhyw atgof o'r heddlu'n defnyddio teclyn Taser arno.
Cafodd yr heddlu eu galw i fflat Ian Murselovic yn Hen Golwyn wedi iddo ffonio 999 gan ddweud wrth staff y gwasanaeth ambiwlans fod arfau yn ei feddiant a'i fod "yn teimlo'n dreisgar."
Gafaelodd y dyn 44, sy'n dioddef o gyflwr PTSD, gyllell cegin a bygwth eu lladd.
Fe blediodd Murselovic yn euog i honiad o achosi ffrae ac fe dderbyniodd ddedfryd o 10 mis mewn carchar wedi ei gohirio am ddwy flynedd yn Llys y Goron Caernarfon ddydd Llun.
"Meddyliwch am hynny - miloedd o foltiau'n pasio drwy eich corff ac nid ydych yn gallu cofio", meddai'r cofnodydd Simon Mills.
Fe dderbyniodd Murselovic, sydd wedi galw'r gwasanaethau brys yn y gorffenol tra'n feddw cyn bygwth staff. Orchymyn Ymddygiad Troseddol am dair blynedd.
Mae'r gorchymyn yn ei wahardd rhag defnyddio iaith fygythiol, gan gynnwys iaith wedi ei anelu at weithwyr brys, ac ni fydd yn cael galw 999 heblaw mewn argyfwng.