CPD Bangor yn gwerthu Les Davies

  • Cyhoeddwyd
Lesley DaviesFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,
Un o fechgyn lleol Bangor, Lesley 'Y Tryc' Davies

Mae Clwb Pêl-droed Dinas Bangor wedi gwerthu eu hymosodwr Les Davies i Glwb Pêl-droed GAP Cei Connah.

Yn arwr ymysg y cefnogwyr mae Davies wedi cael ei enwebu sawl tro fel un o ymosodwyr gorau Uwchgynghrair Cymru, ac yn 2012 fe gafodd ei enw ei gynnwys ar restr hir chwaraewr gorau Ewrop gan UEFA.

Mae'r ymosodwr wedi cynrychioli tîm dan-21 oed Cymru a thîm lled broffesiynol dan-23 oed ei wlad.

Mewn datganiad ar dudalen Facebook CPD Bangor, fe ddywedodd swyddogion y clwb eu bod wedi "cytuno ar ffi na ellir ei ddatgelu gyda Gap Cei Conna ar gyfer ein hymosodwr Les Davies, sydd wedi cytuno ar delerau personol yn gynharach heddiw (dydd Sul).

"Dymunwn yn dda i Les a diolchwn iddo am ei wasanaeth i'r clwb dros y blynyddoedd. Hoffem hefyd ddiolch i'r swyddogion o Gap Cei Connah am y modd proffesiynol y maent wedi delio â'r trosglwyddiad."

Yn ôl ysgrifennydd y clwb, Gwynfor Jones, mi wnaeth GAP Cei Connah gysylltu â Bangor ddiwedd tymor diwethaf ynglŷn â'r posibilrwydd o brynu'r chwaraewr, sy'n wreiddiol o Faesgeirchen, Bangor, a'u bod wedi gwrthod y cynnig bryd hynny, ond fod GAP Cei Conna wedi gwneud cynnig arall y penwythnos diwethaf a bod y clwb wedi rhoi caniatâd i Davies siarad â'r Nomadiaid.

Dywedodd un o gyfarwyddwyr y clwb wrth BBC Cymru Fyw mai penderfyniad Les Davies ei hun oedd gadael.

"Mi ddudodd Les wrtha ni i fod o wedi cael cynnig oedd yn rhy dda i wrthod. Mae'n rhaid i ni gofio, er y bysa ni yma ym Mangor yn licio gweld Les yn aros efo ni tan i fod o'n ymddeol, mae o bron yn 31 oed, ac mae'n rhaid iddo fo wneud be sy' ora iddo fo yn y pendraw."

Yn ôl y cyfarwyddwr, mae Bangor yn edrych ar y posibiliadau o arwyddo "un neu ddau" o ymosodwyr eraill yn ystod yr wythnosau nesaf, er mwyn cryfhau'r garfan boed hynny ar fenthyg neu ar gytundebau parhaol.