Tongwynlais: Teyrngedau i yrrwr
- Cyhoeddwyd

Bu farw Leon Whittle, o Dongwynlais, wedi'r gwrthdrawiad yn Nhongwynlais
Mae teyrngedau wedi eu rhoi i ddyn 18 oed fu farw ar ôl gwrthdrawiad yng Nghaerdydd.
Bu farw Leon Whittle, o Dongwynlais, wedi'r car Renault Clio glas fod mewn gwrthdrawiad ar Heol-Y-Fforest am 02:50 fore Sul.
Mae dau ddyn arall, un yn 23 oed a'r llall yn 24, yn parhau i fod mewn cyflwr difrifol yn Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd.
Dywedodd teulu Mr Whittle eu bod yn ei addoli.
Mewn datganiad a gyhoeddwyd drwy Heddlu De Cymru, maent yn dweud bod Mr Whittle "...yn ddyn deallus gyda chalon fawr a bod gan bawb oedd yn ei adnabod feddwl mawr ohono."
Bu'r ffordd ar gau am oddeutu pedair awr ar ôl y digwyddiad tra bod swyddogion yn ymchwilio.
Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu â'r heddlu ar 101.
Straeon perthnasol
- 9 Awst 2015