Ymatebion i adolygiad cartrefi gofal yn 'siomedig'
- Cyhoeddwyd

Mae archwilwyr gofal a gweinidogion wedi eu herio i egluro mewn mwy o fanylder sut y maen nhw'n bwriadu gwella safon bywyd pobl hŷn mewn cartrefi gofal.
Dywedodd Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru Sarah Rochira ei bod yn "siomedig" gyda'u hymatebion i adolygiad y llynedd.
Fe wnaeth yr adolygiad ddarganfod bod cartrefi gofal yn cael eu gweld fel llefydd o "ddirywiad".
Dywedodd Llywodraeth Cymru ei fod yn "gweithredu'n gryf" gyda chyfreithiau newydd i wella'r ffordd y mae cartrefi gofal yn cael eu rheoli.
Canmoliaeth i rai
Roedd adroddiad Ms Rochira ym mis Tachwedd yn dilyn ymweliadau gan arbenigwyr i 100 o gartrefi gofal, a dros 2,000 o holiaduron gan breswylwyr cartrefi gofal a'u teuluoedd.
Roedd pob corff cyhoeddus sy'n gysylltiedig â'r sector wedi cael eu gofyn i gyflwyno cynllun yn manylu'r ffyrdd y bydyn nhw sicrhau gwelliannau i fywydau preswylwyr.
Tra bod byrddau iechyd ac awdurdodau lleol wedi'u canmol am eu "hymrwymiad cryf" i wella safonau byw, roedd Ms Rochira yn fwy beirniadol o Lywodraeth Cymru ac Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC).
"Yn fy adolygiad roeddwn wedi egluro beth fyddai effaith peidio â gweithredu a'r pris sy'n cael ei dalu gan bobl hŷn pan fydd cyrff cyhoeddus yn methu â chynnal hawliau pobl a'u diogelu," meddai Ms Rochira.
"Rwyf felly'n hynod siomedig bod yr ymatebion gan Lywodraeth Cymru ac AGGCC mewn nifer o achosion wedi methu â rhoi digon o fanylion na chydnabod y newid sydd angen digwydd i fy sicrhau y bydd camau gweithredu'n cael eu cymryd a fydd yn sicrhau gwelliannau go iawn a chadarnhaol i bobl hŷn sy'n byw mewn cartrefi gofal."
Ymateb
Dywedodd Llywodraeth Cymru ei fod yn parhau i "weithredu'n gryf" mewn cysylltiad â gofal pobl hŷn, gan grybwyll "deddfwriaeth newydd sylweddol" ar reoliad o'r sector gofal.
Ychwanegodd llefarydd: "Ry'n ni hefyd wedi sefydlu Grŵp Llywio Cartrefi Gofal i ddarparu arweinyddiaeth a sicrhau bod gweithredu i wella gofal a chefnogaeth ar gyfer pobl hŷn."
Dywedodd prif arolygydd AGGCC Imelda Richardson: "Pob blwyddyn ry'n ni'n cwblhau miloedd o arolygiadau ac yn siarad gyda phobl am eu profiadau o'r system gofal a sut mae'n cyfrannu i'w safon bywyd.
"Blwyddyn ar ôl blwyddyn ry'n ni'n gweld gwelliannau yn y gofal sy'n cael ei ddarparu yng Nghymru ac fe welwyd gostyngiad o 64% yn nifer y gwasanaethau oedd yn cael eu hystyried yn wasanaeth o bryder yn 2014/15."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Gorffennaf 2015
- Cyhoeddwyd15 Mehefin 2015
- Cyhoeddwyd10 Tachwedd 2014