Rheolau newydd ar gofroddion beddau yn dilyn ffrae
- Cyhoeddwyd

Mae cofroddion beddau sy'n goleuo, symud neu wneud sŵn i gael eu gwahardd o fynwentydd yn Nhorfaen yn dilyn dadl dros bersonoli plotiau.
Roedd rhieni yn ddig y llynedd pan gafodd eitemau personol eu tynnu oddi ar feddau plant a'u gyrru i gladdfa sbwriel.
Fe gafodd y cyngor ymgynghoriad ar y rheolau a phenderfynwyd bod eitemau "niwsans" fel melinau gwynt a goleuadau i gael eu gwahardd.
Dywedodd un cynghorydd ei bod yn siomedig nad oedd na gyfaddawd gwell wedi bod.
Ymateb y cyngor oedd bod y rheolau yn cael eu cyflwyno i gadw sancteiddrwydd mynwentydd mewn lle.
'Ymgynghoriad eang'
Yn ôl y cynghorydd John Cunningham, cafodd y rheolau newydd eu llunio yn dilyn "ymgynghoriad eang" gyda'r rhai oedd wedi codi pryderon.
Ond dywedodd y cynghorydd annibynnol Elizabeth Haynes nad oedd pawb yn hapus gyda'r cynlluniau.
"Rwy'n meddwl y gallai cyfaddawd gwell fod wedi ei gyrraedd," meddai.
Ychwanegodd bod nifer o rieni yn teimlo ei bod yn annheg bod y rheolau yn wahanol yn dibynnu ar yr ardal, ac y dylai cyfraith trwy Gymru gael ei chyflwyno.
Ond fe gafodd y syniad yma ei wrthod gan weinidogion, oedd yn dweud ei fod yn fater i'r awdurdodau lleol.