Cwpan Pêl-rwyd: Cymru 40-68 De Affrica

  • Cyhoeddwyd
Pel-rwydFfynhonnell y llun, Getty Images

Colli oedd hanes tîm pêl-rwyd merched Cymru yng Nghwpan Pêl-rwyd y Byd yn Awstralia ddydd Mawrth.

Hon oedd y gêm gyntaf i'r tîm ei golli ers profi buddugoliaethau yn y gystadleuaeth yn erbyn Ffiji, Zambia ac Uganda.

Hanner ffordd dwy'r gêm roedd Cymru o fewn tafliad carreg i Dde Affrica gyda'r sgôr yn 31-21. Ond yn y trydydd chwarter fe aeth De Affrica ymlaen i sgorio 28 o bwyntiau, gan adeiladu mantais gyfforddus.

Dywedodd hyfforddwraig Cymru Trish Wilcox: "De Affrica oedd y tîm gorau.

"Ond rwy'n siomedig ein bod wedi gadael ein hunain i lawr yn y trydydd chwarter.

"Ond yn sicr roedd y gwaith y gwnaeth y merched yn y cymalau cyntaf, fe wnaethon nhw barhau gyda hyn am dri chwarter y gêm felly mae 'na bendant bethau positif i'w cymryd o'r gêm."