Tân mawr yng nghanol tref Llangefni

  • Cyhoeddwyd
FireFfynhonnell y llun, Bodafonpork/Twitter

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i dân mawr yng nghanol tref Llangefni ddydd Mawrth, ac mae Heddlu Gogledd Cymru wedi gofyn i deithwyr osgoi canol y dref am y tro.

Roedd y tân mewn adeilad ar Stryd yr Eglwys yn y dref.

Roedd pobl wedi gorfod gadael adeiladau cyfagos tra bod y gwasanaethau brys yn ceisio rheoli'r tân. Mae'r tân bellach dan reolaeth.

Yn ôl Keith Thomas, sy'n berchen ar siop gigydd drws nesaf i'r adeilad aeth ar dân, cafodd siop sglodion ei difrodi'n wael yn y digwyddiad.

Cafodd staff y siop sglodion eu hebrwng allan o'r adeilad, ynghŷd â phobl mewn nifer o fusnesau eraill, meddai.

Dywedodd fod llawer o fŵg wedi codi, ag efallai fod busnesau eraill, gan gynnwys ei siop ei hun, wedi eu difrodi ond roedd yn anodd mesur y difrod ar hyn o bryd.

"Mae'r siop sglodion wedi ei difrodi'n llwyr", meddai. "Mae na gymaint o fŵg wedi bod mae'n anodd iawn i ni ddweud beth yw'r difrod i fy siop."

Ffynhonnell y llun, Glyn Jones

Dywedodd Andrew Hughes, perchennog siop Tlysau yn y dref, fod y tân wedi dechrau am 10:05.

Roedd yn credu fod perchenog y siop sglodion aeth ar dân wedi dianc yn ddi-anaf ond ei fod wedi dychryn.

"Roedd y siop yn wenfflam, does dim byd ar ôl", meddai Mr Hughes.

"Mae'r stryd ar gau ac mae'r gwasanaeth tân yma, yn pwmpio dŵr iddi."

Dywedodd Mr Hughes nad oedd y siop yn agor tan 11:00 fel arfer felly doedd na ddim cwsmeriaid ynddi ar y pryd.

"Fe nes i weld y ffenestri yn cael eu chwythu am allan. Roeddwn i 100 o latheni i ffwrdd ac fe wnes i deimlo'r gwres.

"Fe aeth y pechennog allan. Roedd yn iawn ond wedi dychryn yn ofnadwy ac wedi ei ypsetio gan fod ei fusnes wedi mynd."

Ffynhonnell y llun, Paul Brook

Dywedodd Beth Rowlands o swyddfa Gwerthwyr Tai Dafydd Hardy sydd gerllaw lleoliad y tân: "Roedd na fŵg trwchus du ar hyd Llangefni am yr awr ddiwethaf. Roedd yn diffodd am ryw 20 munud nes daeth y gwasanaeth tân."

Dywedodd Ian Williams o Wasanaeth Tân ag Achub y Gogledd fod diffoddwyr tân wedi eu galw i adeilad ar Stryd yr Eglwys am 10:30 fore dydd Mawrth. Roedd y tân wedi cydio ar lawr gwaelod siop sglodion Y Ddwylan cyn ymledu i loriau eraill yn yr adeilad.

Wrth ymateb i bryderon fod y gwasanaeth tân wedi cymryd bron i hanner awr i gyrraedd y digwyddiad, dywedodd Mr Williams eu bod wedi derbyn yr alwad am 10:30 a'u bod yn y lleoliad ar ôl 19 munud.

Cafodd dau o griwiau tân o Fangor, un criw tân o Borthaethwy, a chriw tân o Rosneigr eu galw.

Nid oes unrhyw adroddiadau fod neb wedi ei anafu.

Ffynhonnell y llun, bodafonpork/Twitter
Ffynhonnell y llun, Arall