Steddfod heb y Maes?
- Cyhoeddwyd

A ddylai Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 2018 gael ei chynnal heb faes traddodiadol? Mae'n syniad sy'n cael ei ystyried gan drefnwyr y brifwyl.
Mae Cymru Fyw wedi bod yn edrych ar leoliadau posib i gynnal rhai o'r gweithgareddau heb y pafiliwn a'r pebyll traddodiadol ac mae rhai sdeddfotwyr wedi rhannu eu barn yn glir am yr egwyddor ar wefan Twitter. Dymai chi flas o'r drafodaeth:
Malan Wilkinson @malanwilkinson: "Dw i'n casáu popeth am y syniad! Siawns y medrwn ni gefnogi ardaloedd ar hyd a lled Cymru heb newid popeth hyfryd am y 'sdeddfod."
Guto Dafydd @gutodafydd: "Dwi'n hoff iawn o'r syniad o'r brifwyl yn hawlio'r brifddinas - meddiannu canol Caerdydd a'i ddefnyddio fel maes".
Helen Saunders @Ceridweb: "Mae Caerdydd yn dal yn lle mor Seisnigedd, bydd hi'n anodd cael awyrgylch Eisteddfod"
Geraint Løvgreen @ddim_yn_sant: "Mewn lle fel Meifod mae'n rhaid ei chynnal mewn cae. Ond mewn lle mae dewis arall ar gael, pam ddim arbrofi?"
Dewisiadau'r Eisteddfod
Does dim manylion hyd yma ynglyn a'r trafodaethau sydd ar y gweill - ond mae modd dyfalu ynglyn a'r dewisiadau allai wynebu'r Eisteddfod
Y flaenoriaeth penna fydd sicrhau canolfan addas - adeilad addas ar gyfer gweithgareddau mawr y pafiliwn.
Mae Cymru Fyw wedi bod yn edrych ar leoliadau posib ar gyfer y cystadlu a'r seremonïau - ac mae sawl opsiwn ar gael.
Fe fydd y gofynion yn sylweddol.
Mae gan y pafiliwn pinc presennol le i gynulleidfa o 2500.
Bydd trefnwyr yr Eisteddfod yn chwilio am ganolfan fawr sydd yn ddigon hyblyg i gynnal holl gystadlaethau'r ŵyl a'r seremonïau mawr.
Canolfan Mileniwm Cymru
Eisoes mae Eisteddfod yr Urdd yn cynnal yr Eisteddfodau yma. Yma mae prif lwyfan y cystadlu, gyda stondinau y tua allan ar Roahl Dahl Plass.
Manteision:
Adeilad urddasol urddasol a acwstig da - lle i gynulleidfa o 1897 a nifer o ystafelloedd ymarfer pwrpasol.
Anfanteision:
Dros filltir o ganol y ddinas a diffyg digon o adeiladau "diwylliannol" eraill gerllaw.
Neuadd Dewi Sant
Manteision:
Lleoliad gwych yng nghanol y ddinas gyda 1500 o seddi. Acwstig ardderchog ar gyfer perfformiadau cerddorol.
Yr Aes y tu allan sydd eisoes yn cynnal stodinau masnachol adeg siopa nadolig.
Anfanteision:
Ychydig yn gyfyng ar gyfer cerbydau, llai o faint na'r pafiliwn presennol.
Motorpoint Arena
Manteision:
Canolfan berfformio fawr yng nghanol y ddinas - lle ar gyfer cynulleidfa o 5,000. Lleoliad gwych â gwagle hyblyg. Digon mawr i gynnal prif seremonïau'r eisteddfod.
Anfanteision
Enw di ramant ar gyfer canolfan ddiwylliannol, ond efallai yn cwrdd â llawer o ofynion yr Eisteddfod Genedlaethol…
Castell Caerdydd
Manteision:
Mae'r castell wedi cynnal cyngherddau awyr agored mawr ar gyfer cynulleidfaoedd o 10,000 ar gyfer perfformwyr fel y Manic Street Preachers, Tom Jones a'r Stereophonics. Dyma gartref Tafwyl, Gŵyl Gymraeg Caerdydd. Lleoliad da ar gyfer stondinau a pherfformiadau awyr agored.
Anfanteision:
Ddim yn bafiliwn ond yn ganolfan posib i stondinau'r ŵyl a'r llwyfannau eraill.
Stadiwm y Mileniwm
Manteision:
Mae'r tô yn medru cau, mae modd symud y gwair i naill ochr, ac mae o 74,000 seddi plastig yno.
Hefyd mae Parc yr Arfau yn gyfleus o agos drws nesaf. Mae'r bariau dydd yn medru arllwys cannoedd o alwyni o gwrw pob eiliad ac mae digon o dai bach (i ddynion)
Ar gael fel arfer yn ystod wythnos gyntaf mis Awst.
Anfanteision:
Rhy fawr, braidd.
Coleg Brenhinol Cerdd a DramaCymru
Manteision:
Adeilad newydd gyda llwyfan berfformio ar gyfer cynulleidfa o 450. Hefyd theatr sydd â lle ar gyfer 150.
Lleoliad canolog, wrth ymyl y castell. Adeilad newydd a llwyfannau perfformio gwych.
Anfanteision:
Yn rhy fach fel pafiliwn, ond yn opsiwn da i lwyfannu perfformiadau cerddorol neu ddrama o bob math.
Y Theatr Newydd
Manteision:
Dros fil o seddi mewn theatr draddodiadol ei naws yng nghanol y ddinas. Yn boblogaidd ar gyfer cynnal pantos a pherfformiadau theatr traddodiadol.
Anfanteision
Yn rhy gyfyng ar gyfer yr Orsedd.
Canolfannau eraill:
Canolfan Chapter
Ar gyrion y canol, canolfan ddiwylliannol anffurfiol gyda nifer o lwyfannau hyblyg ond cymharol fach.
4 llwyfan - y mwyaf yn dal cynulleidfa o 188.
Theatr Sherman
Yn weddol agos i'r canol, llwyfan fawr ar gyfer cynulleidfa o 468, a theatr fach ar gyfer tua 150.
Lleoliad cyfleus a hyblyg.
Ydych chi o blaid arbrofi ta Maes traddodiadol amdani ?
Rhannwch eich barn gyda cymrufyw@bbc.co.uk, neu ar ein cyfrif Twitter @BBCCymruFyw
Lle dylai'r Eisteddod fynd yn 2018? Cystylltwch â BBC Cymru Fyw