Gwrthdrawiad: Anafiadau difrifol i bensiynwr
- Cyhoeddwyd

Fe gafodd yr heddlu eu galw i'r digwyddiad ar Bryn Bevan am 23:35 nos Lun
Mae dyn 34 oed wedi ei arestio wedi i gerddwr 75 oed ddioddef anafiadau difrifol yn dilyn gwrthdrawiad ar Bryn Bevan yng Nghasnewydd nos Lun.
Dywedodd Heddlu Gwent eu bod wedi cael eu galw i'r digwyddiad am 23:35.
Mae'r pensiynwr yn derbyn triniaeth yn Ysbyty Brenhinol Gwent yn y ddinas.
Bu'r ffordd ar gau am gyfnod, ac mae'r heddlu yn apelio am dystion.
Mae'r dyn 34 oed, oedd yn gyrru car Renault Megane llwyd, wedi ei arestio ar amheuaeth o yrru'n beryglus ac mae wedi ei gadw yn y ddalfa.