Rhybudd am beryglon afon ble aeth bachgen ar goll

  • Cyhoeddwyd
Cameron Comey
Disgrifiad o’r llun,
Fe wnaeth Cameron Comey ddisgyn i Afon Tywi wrth chwarae gyda'i frawd

Mae plant wedi'u rhybuddio am beryglon nofio mewn afon yn Sir Gaerfyrddin ble aeth bachgen 11 oed ar goll ym mis Chwefror.

Daw'r rhybudd wedi i blant gael eu gweld yn Afon Tywi ble aeth Cameron Comey ar goll.

Mae'r heddlu'n patrolio'n rheolaidd fel rhan o bartneriaeth diogelwch sy'n gobeithio codi ymwybyddiaeth am y peryglon.

Fe gafodd y bartneriaeth ei sefydlu o ganlyniad i ddwy farwolaeth a diflaniad Cameron.

Bu farw Kieran Bennett-Leefe, 14 oed, ar ôl disgyn i'r afon yn 2011 ac fe wnaeth Luke Somerfield yn 14 oed foddi mewn hen chwarel yn 2012.

Fe gafodd Partneriaeth Diogelwch Dŵr Sir Gaerfyrddin ei sefydlu i helpu'r gwasanaethau brys, yr awdurdod lleol a'r cyhoedd i rannu gwybodaeth am bryderon.

Bu'n dosbarthu dros 20,000 o daflenni gwybodaeth i ysgolion y sir yn ystod wythnos olaf y tymor, yn rhybuddio am y peryglon o nofio mewn afonydd.