Corbyn: 'Angen cysylltiad nes rhwng pleidiau Llundain â Chymru'
- Cyhoeddwyd

Ymwelodd Jeremy Corbyn â cherrig coffa Aneurin Bevan
Mae un o'r ymgeiswyr am arweinyddiaeth y Blaid Lafur, Jeremy Corbyn, wedi galw am gysylltiadau agosach rhwng pleidiau San Steffan a Chymru.
Wrth annerch mwy na 200 o bobl yn Nhredegar, Blaenau Gwent, dywedodd ei fod yn edmygu record Llafur Cymru.
Yna canmolodd Lafur Cymru am osgoi cystadleuaeth fewnol yn y Gwasanaeth Iechyd a dywedodd ei fod yn awyddus "i roi hwb i wasanaethau trenau".
Dywedodd ei fod yn gobeithio cyfarfod Prif Weinidog Cymru Carwyn Jones yn fuan i rannu syniadau.
Bydd ail ddiwrnod o ymgyrchu Mr Corbyn yng Nghymru yn dod i ben gyda rali yng Nghaerdydd nos Fawrth.
Andy Burnham, Yvette Cooper a Liz Kendall yw'r ymgeiswyr eraill ar gyfer arweinyddiaeth y blaid, gyda'r enillydd yn cael ei gyhoeddi ar 12 Medi.