Arweinyddiaeth Llafur: Diwrnod olaf i gofrestru

  • Cyhoeddwyd
Yr ymgeiswyrFfynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,
Y pedwar ymgeisydd yw Yvette Cooper, Liz Kendall, Andy Burnham a Jeremy Corbyn

Dydd Mercher yw'r diwrnod olaf i gofrestru ar gyfer pleidleisio yn yr etholiad i ddewis arweinydd y Blaid Lafur.

Fe fydd y gofrestr yn cau am hanner dydd a'r papurau pleidleisio'n dechrau cael eu dosbarthu ddydd Gwener.

Fe fydd rhaid i bleidleiswyr roi rhif wrth bob un o'r pedwar ymgeisydd yn ôl eu dewis, gyda'r canlyniad yn cael ei gyhoeddi ar 12 Medi.

Y pedwar ymgeisydd yw Yvette Cooper, Liz Kendall, Andy Burnham a Jeremy Corbyn.

Yn ôl y blaid, mae tua 1,200 wedi cael eu gwahardd rhag pleidleisio oherwydd eu bod yn cefnogi pleidiau eraill.

Gwirio

Dywedodd llefarydd y byddai swyddogion yn gwirio aelodau newydd sy'n gobeithio pleidleisio.

Bydd y broses wirio yn parhau hyd yn oed ar ôl i bobl fwrw eu pleidlais.

Ymhlith y rhai sydd wedi cael eu gwahardd rhag pleidleisio mae'r AS Ceidwadol Tim Loughton a'r newyddiadurwr Toby Young.

Gall unrhyw un wneud cais i fod yn rhan o'r bleidlais os ydyw'n cytuno i fod yn aelod o'r blaid neu'n gefnogwr erbyn y dyddiad cau heddiw.

Y cwbl sydd ei angen yw tâl aelodau o £3 a thic mewn blwch yn cytuno ag "amcanion a gwerthoedd" y blaid.